Gorchymyn Trefniadau Plant
Carys Dunlop Lloyd (Myfyriwr)
Mae gorchymyn trefniadau plant yn orchymyn y maeâr llys yn penderfynu arno ac syân rheoleiddio pwy y mae plentyn i fyw gydag, i dreulio amser gydag, ac i gael cyswllt fel arall. Fel arfer mae angen gorchmynion trefniant plant pan fod rhieni plentyn neu blant wedi gwahanu ac yn methu dod i gytundeb ynglšn â mynediad at y plant. Fodd bynnag, mewn rhai amgylchiadau nid yw hyn yn wir, ac weithiau mae pobl heblaw rhieni yn gwneud ceisiadau fel neiniau a theidiau, perthnasau agos neu bobl eraill sydd â pherthynas agos â'r plant.
Mae Deddfau ar gyfer gorchmynion trefniant plant yn Adran 8 o Ddeddf Plant 1989. Bydd y Llys yn edrych ar amgylchiadauâr teulu unigol ac yn ymwneud yn bennaf â lles y plentyn. Oherwydd natur unigol pob achos bydd y gorchymyn trefniant plentyn a gyrhaeddir yn benodol ar gyfer anghenion ac amgylchiadau unigol y teulu a beth sydd er lles pennaf y plentyn.
Maeân bosibl (ac yn cael ei annog) i bartĂŻon ddod i gytundeb ar y trefniadau heb fod angen mynd iâr llys.
Cyn gwneud cais iâr llys, fel arfer rhaid iâr partĂŻon fynychu cyfarfod am gyfryngu a elwir hefyd yn gyfarfod gwybodaeth ac asesu cyfryngu (âMIAMâ). Nid oes angen bod yn bresennol mewn MIAM os bu cam-drin domestig ond, mewn rhai achosion, hyd yn oed os bu cam-drin domestig, efallai y bydd cyfryngwyr yn dal i allu helpu drwy gyflawniâr hyn a elwir yn âshuttle mediationâ, syân golygu nad ywâr partĂŻon byth yn gorfod dod i gysylltiad, naill aiân bersonol neu ar-lein.
Ar Ă´l i'r cais gael ei gyhoeddi, bydd y llys yn trefnu gwrandawiad gyda'r ddau riant. Bydd gwrandawiad y barnwr neu'r ynad (magistrate) yn ceisio canfod rhwng y partĂŻon beth
- Gallant gytuno
- Beth na allant gytuno arno
- Os yw'r plentyn mewn perygl mewn unrhyw Ffordd
Bydd y barnwr neuâr ynad yn annog y partĂŻon i ddod i gytundeb os yw hynny er lles gorauâr plentyn. Os yw hyn yn bosibl ac nad oes unrhyw bryderon ynghylch lles y plentyn gall y barnwr ddod ââr broses i ben.
Os na ellir dod i gytundeb yn y gwrandawiad bydd amserlen yn cael ei gosod ar gyfer yr hyn sy'n digwydd nesaf. Gellir gofyn nifer o bethau i'r unigolion megis ceisio dod i gytundeb eto trwy wahanol adnoddau megis cyfryngu. Gallaiâr llys hefyd annog yr unigolion i fynychu cwrs magu plant neu hyd yn oed orchymyn profion cyffuriau neu alcohol os yw hynnyân broblem ynglšn â hyn.
Wrth wneud gorchymyn bydd yn rhaid iâr barnwr neuâr ynadon ystyried y rhestr wirio lles a nodir yn y Ddeddf Plant a bydd yn ystyried
- Dymuniadau neu deimladauâr plentyn (os ywân ddigon hen)
- Anghenion corfforol, emosiynol ac addysgol y plentyn
- Unrhyw effaith y gall y newidiadau eu cael ar y plentyn
- Y risg bosibl o niwed i'r plentyn
- Gallu'r rhieni i ddiwallu anghenion y plentyn
Bydd gorchymyn trefniant plentyn fel arfer yn cynnwys nifer o amodau megis gyda phwy y bydd y plentyn yn byw yn bennaf, yr amodau y bydd y plentyn yn treulio amser arnynt gydaâr rhiant arall neu unigolion eraill sydd â chyfrifoldeb rhiant. Gall hyn gynnwys pethau fel dyddiau penodol o'r wythnos a pha mor aml y bydd yr ymweliadau'n digwydd. Gall y gorchymyn hefyd gynnwys cyswllt anuniongyrchol arall fel galwadau ffĂ´n neu negeseuon testun neu hyd yn oed cyswllt wyneb yn wyneb dan oruchwyliaeth.
Mae clinig gyfraith Prifysgol Bangor yn gallu cynghori ar gorchmynion trefniadau plant. Os rydych eisiau gwneud apwyntiad i drafod hyn ymhellach, gallwch ein ffonio 01248 388 411 neu ein e-bostio bulac@bangor.ac.uk