Trafod Gorffennol a Dyfodol Eryri yn Narlith Flynyddol yr Archifau
Rydym yn hynod falch o'n hymchwilydd doethurol Alex Ioannou, a wahoddwyd i roi Darlith Flynyddol Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Bangor ddydd Mercher, 12fed o Dachwedd 2025. Rhoddodd darlith Alex, 'Challenging time(s): Exploring how we shape the past and future of Eryri through the exchange of material culture', fewnwelediad diddorol i'w brosiect ymchwil doethuriaeth rhyngddisgyblaethol, sydd â'i wreiddiau yn Nyffryn Ogwen yng nghanol Parc Cenedlaethol Eryri. Mae gwaith Alex yn cysylltu trafodaethau cyfredol am newid tirwedd â'r gorffennol, trwy dystiolaeth hanesyddol a deunydd archifol. Gan ddefnyddio'r cyd-destun hanesyddol hwn fel sylfaen, trefnodd Alex gyfres o weithgareddau ymgysylltu a chyfnewid gwybodaeth gyda phobl Dyffryn Ogwen gyda'r nod o 'ail-fframio' agweddau a chanfyddiadau cyfoes tuag at dirwedd ac 'aflonyddu' dealltwriaethau dominyddol i ddatgelu dealltwriaeth llawer cyfoethocach a mwy amrywiol. Mae ei brosiect yn darparu model amgen ar gyfer gwneud penderfyniadau ynghylch tirwedd sy'n cynnwys pobl a chymunedau lleol.
Bob blwyddyn ers 2011, mae Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Bangor wedi gwahodd siaradwr sydd wedi treulio cyfnod sylweddol o amser yn ymchwilio i bwnc penodol yn yr Archifau neu sy'n arbenigo mewn maes pwnc sy'n berthnasol i'r adran i roi eu Darlith Flynyddol; gellir gweld rhestr o ddarlithoedd blaenorol a'r siaradwyr uchel eu parch ar-lein. Mae siaradwr 2025, Alex Ioannou, wedi gwneud defnydd helaeth o gasgliad Ystâd Penrhyn fel rhan o'i brosiect doethuriaeth o'r enw 'Ail-fframio Eryri mewn Ymarfer', menter ar y cyd rhwng Sefydlian Ymchwil Ystadau Cymru a Chanolfan Syr William Roberts ar gyfer Defnydd Tir Cynaliadwy, sy'n taflu goleuni ar y ffyrdd y mae Eryri wedi newid, o drawsffurfiadau ffisegol i'r newidiadau mwy anweledig, er enghraifft canfyddiad pobl o'r dirwedd. Mae Alex hefyd wedi bod yn gweithio'n agos gyda'r Archifau dros y flwyddyn ddiwethaf fel Cynorthwyydd Ymchwil a Digideiddio ar brosiect a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru i ddigideiddio a darparu mynediad ar-lein i Bapurau Jamaica o fewn casgliad Ystâd Penrhyn.
Mae'n destun balchder sylweddol bod un o'n myfyrwyr doethuriaeth wedi cael ei wahodd i draddodi Darlith Flynyddol yr Archifau... Ers ymuno â ni yn Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru, mae Alex wedi ymgolli'n llwyr yn yr Archifau a thrwy ei ymchwil, ei gydweithrediad, ei greadigrwydd a'i ofal mae wedi chwarae rhan bwysig wrth daflu goleuni ar sut y gall y deunydd hanesyddol hwn gyfrannu at rai o'r brif heriau a materion cyfoes.
Ar Ă´l cyflwyniadau gan Archifydd y Brifysgol, Elen Wyn Simpson, talodd Alex deyrnged i dĂŽm yr Archifau â sydd hefyd yn cynnwys Shan, Lynnete a Gwyn â gan annog i bawb eu cymeradwyo. Roedd hyn yn arbennig o deimladwy yng nghydestun digwyddiadauâr misoedd blaenorol, a welodd Achos Busnes y Brifysgol dros Newid yn cynnig toriadau sylweddol iâr Archifau, er fe gafodd y rhain eu gwrthdroi i raddau helaeth, diolch byth. Yn sgil y cynnigion, daeth sefydliadau, cymunedau ac unigolion ledled Cymru a thu hwnt at eu gilydd i ddangos eu cefnogaeth i'r Archifau. Roedd yna dros 3,000 o lofnodion ar y ddeiseb âAchub Ein Harchifauâ a gychwynnwyd gan Alex!
Agorodd Alex ei ddarlith drwy bwysleisio difrifoldeb yr argyfwng hinsawdd presennol a'i effaith ar dirwedd Cymru, sef mwy o sychder, llifogydd a thonnau gwres ac effaith gwael ar yr ecosystem. Mae Llywodraeth Cymru wedi galw hwn yn 'ddegawd pendant' i fynd i'r afael â newid hinsawdd, sy'n golygu bod angen i'r ffordd rydym yn rheoli ein tirweddau esblygu. Er gwaethaf galwadau gan Lywodraeth Cymru i âbob dinesydd, cymuned, grĹľp a busnes yng Nghymru ymgorfforiâr argyfwng hinsawdd yn y ffordd maen nhwân meddwl, gweithio, chwarae a theithioâ, eglurodd Alex fod y pĹľer o ran gwneud penderfyniadau ynghylch defnydd tir yn dal i fod gydaâr llywodraeth, awdurdodau lleol a chyrff a noddir gan y llywodraeth, yn y pen draw. Un o brif gwestiynau ymchwil Alex yw âsut y gellir gwneud penderfyniadauân fwy gwybodus?â Fel y daeth iâr amlwg yn ystod ei ddarlith, maeân creduân gryf y gellir gwneud penderfyniadau lleol yn fwy gwybodus pan fydd mwy o bobl yn cymryd rhan; ââfodd bynnag, mae pobl leol a grwpiau cynrychioliadol yn wynebu rhwystrau sylweddol i gymryd rhan mewn gwneud penderfyniadau, hyd yn oed o fewn eu milltir sgwâr eu hunain. Felly, un arall oâi gwestiynau ymchwil allweddol yw âsut gellir herio syniadau dominyddol a deinameg pĹľer?â
Mae prosiect doethuriaeth Alex wedi herio'r arfer, drwy ddatblygu a phrofi dull newydd o wneud penderfyniadau cydweithredol ar lefel leol. Roedd ei fethodoleg yn cynnwys cynnal cyfres o weithgareddau ymgysylltu a chyfnewid gwybodaeth yn ei ardal astudiaeth achos fel ffordd o gydweithio â phobl leol mewn ffordd greadigol a gofalgar. Roedd y rhain yn cynnwys cyfweliadau â ffermwyr, cynghorwyr ac artistiaid allan yn y dirwedd; cyfres o sesiynau cyfnewid gwybodaeth gymunedol ym Methesda, Mynydd Llandygai, a Thregarth; ac arddangosfa yn Pontio ym Mangor. Dyma ffordd o âddod â gwybodaeth i mewn nad yw fel arfer yn cael eu bwydo i mewn i'r system gwneud penderfyniadau tirweddâ, eglura Alex.
Gan ddychwelyd at y cwestiwn ymchwil allweddol sef âsut y gellir gwneud penderfyniadauân fwy gwybodus?â, eglurodd Alex fod gwneud penderfyniadau ynghylch tirwedd yn cael ei yrru yn y pen draw gan farn arbenigol, data gwyddonol a gwybodaeth a gynhyrchir yn sefydliadol. Un o egwyddorion craidd prosiect Alex yw bod âtirwedd yn gysyniad cymhleth syân cynnwys nid yn unig yr agweddau ffisegolâ; ni ellir ei deall mewn termau esthetig a gwyddonol yn unig. Dadleua Alex fod yn rhaid i ni âail-fframioâ sut rydym yn canfod tirwedd i gydnabod ei bod yn llawn atgofion ac ystyr.
Yn gyntaf, edrychodd Alex ar newid yn y dirwedd yn y gorffennol. Roedd hyn yn cynnwys ymgynghori â deunydd eilaidd i archwilio dealltwriaethauâr gorffennol o berthnasoedd dynol â thirwedd. Yn ogystal, ymgymerodd ag ymchwil archifol, gan ddefnyddio casgliad Ystâd Penrhyn yn Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Bangor i ddatgelu sut y newidiodd tirwedd Dyffryn Ogwen rhwng 1760 a 1951. Disgrifiodd ei gyflwyniad sut y gwnaeth y tirfeddianwyr lleol, y teulu Pennant o Gastell Penrhyn, drawsnewid y dirwedd yn gorfforol trwy ffermio, chwarela, adeiladu argaeau a sefydlu rhwydwaith trafnidiaeth; heb sĂ´n am ddenu cannoedd o weithwyr i'r ardal i fyw. Fodd bynnag, ystyriodd Alex hefyd y newid yng nghanfyddiad y dirwedd yn ystod y cyfnod hwn. Er enghraifft, ar ddechrau'r ddeunawfed ganrif, ystyriwyd Eryri fel lle peryglus a ffiaidd, a ddisgrifiwyd fel 'the fag end of Creation'. Ond erbyn diwedd y ddeunawfed ganrif ystyriwyd Eryri yn brydferth a darluniadwy ac roedd yn denu teithwyr, artistiaid a thwristiaid di-ri.
Nesaf, eglurodd Alex sut mae ânaratifau swyddogolâ Dyffryn Ogwen yn cael eu rheoli gan y tirfeddianwyr aâr awdurdod lleol, gan gynnwys Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, Cyfoeth Naturiol Cymru aâr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Mae eu gwefannauân disgrifio Eryri fel âlle prydferth a gwylltâ er mwyn apelio at synhwyrau pobl; âlle llawn antur a chyfleonâ i hyrwyddo gweithgareddau awyr agored; a âffynhonnell ysbrydoliaethâ i awduron ac artistiaid. Fodd bynnag, dadleuodd Alex fod ây naratif swyddogol hwn yn symleiddioâr amodau cymdeithasol, gwleidyddol ac economaidd yn Eryri, ac yn lleihau cymhlethdod perthynas trigolion y gorffennol ââr dirweddâ. Gan ddefnyddioâr cyd-destun hanesyddol a gasglwyd ganddo oâr Archifau fel sylfaen ar gyfer ei weithgareddau ymgysylltu a chyfnewid gwybodaeth, aeth ati i âail-fframioâ Dyffryn Ogwen, gan ofyn cwestiynau fel âpa naratifau sy'n bodoli am gymunedau a thirwedd Dyffryn Ogwen?â a âsut mae pobl leol yn canfod ac yn profi newid yn Nyffryn Ogwen?â. Y nod yw y bydd y math gwahanol hwn o wybodaeth yn cael ei fwydoân Ă´l iâr broses o wneud penderfyniadau.
I grynhoi, mae prosiect Alex wedi datblygu dull newydd o wneud penderfyniadau ar y cyd ar lefel leol. Ar ben hynny, mae wedi dangos y gellir llywio penderfyniadau lleol sy'n ymwneud â'r dirwedd yn well trwy mewnbwydo safbwyntiau hanesyddol a phersonol. Nid yn unig roedd hwn yn gyflwyniad a oedd yn gwahodd pobl i feddwl, ond roedd yn hynod ddiddorol yn weledol, yn llawn ffotograffau, mapiau, paentiadau a diagramau, heb sôn am y ffilm fer hanner ffordd trwy'r ddarlith! Gellir gweld rhai o'r gwaith a'r deunydd archifol a gyflwynwyd yn .
Dechreuodd sessiwn Cwestiwn ac Ateb y noson gyda chwestiwn am ddyfodol twristiaeth a'r pwysau sy'n deillio o hynny, ac fe siaradodd Alex am bĹľer ail-lunio a chwestiynu naratifau penodol am "bobl leol yn erbyn twristiaid" i helpu i leddfu tensiynau. Yn ogystal, soniodd aelod o'r gynulleidfa am ei taid oedd yn yrrwr ar reilffordd Ystad Penrhyn.
Dywedodd Goruchwyliwr Alex a Chyfarwyddwr Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru, Dr Shaun Evans, ei bod âyn destun balchder sylweddol cael un oân myfyrwyr doethuriaeth wediâi wahodd i draddodi Darlith Flynyddol yr Archifau. Maeâr Archifauân ganolog i bopeth a wnawn fel canolfan ymchwil, ac yn adnodd mor unigryw iâr Brifysgol. Ers ymuno â ni yn Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru, mae Alex wedi ymgolliân llwyr yn yr Archifau a thrwy ei ymchwil, ei gydweithrediad, ei greadigrwydd aâi ofal mae wedi chwarae rhan bwysig wrth daflu goleuni ar sut y gall y deunydd hanesyddol hwn gyfrannu at rai o'r brif heriau a materion cyfoes. Ynghyd â phawb yn y Sefydliad, rwyân estyn fy llongyfarchiadau cynhesaf i Alex a fy niolchgarwch parhaus i dĂŽm yr Archifau am bopeth a wnânt.â
Dywedodd Alex: âRoedd derbyn gwahoddiad i draddodi Darlith Flynyddol yr Archifau yn hyfryd, ac yn anrhydedd fawr. Hoffwn ddiolch iâr TĂŽm Archifau a Chasgliadau Arbennig am eu cefnogaeth barhaus. Heb eu harbenigedd aâu hamynedd ni fyddai fy ymchwil wedi bod yn bosibl. Roedd yn bleser cyflwyno fy nghanfyddiadau i gynulleidfa brwdfrydig o bobl leol. Maeâr archifau yma ym Mangor yn arbennig ac mae'r cyfle i ddangos beth sydd ganddyn nhw yn eu casgliadau yn arbennig. Hoffwn hefyd ddiolch iâm goruchwyliwr Shaun am ei anogaeth aâi gymorth dros y blynyddoedd".
(Gan Dr Bethan Scorey. Diolch i Alex Ioannou am ei mewnbwn)