Ystyrir bod arsylwiâr rhan fwyaf o lynnoedd gogleddol yn fodd o fesur newid amgylcheddol, ond mae ymchwil yn dangos y gall canlyniadau newid yn yr hinsawdd effeithio ar unrhyw un o fwy na 100 miliwn o lynnoedd y byd.
I gael darlun cydlynol o sut mae newid yn yr hinsawdd yn bygwth llynnoedd, buâr Darllenydd R. Iestyn Woolway o Brifysgol Bangor, Cymru, yr Athro Cyswllt Sapna Sharma o Brifysgol York yng Nghanada, aâr Athro Prifysgol nodedig John Smol o Brifysgol y Frenhines, yn adolygu a chywain yr astudiaethau sydd ar gael ar lynnoedd dĹľr croyw o bob rhan o'r byd.
Canfuâr tĂŽm ymchwil fod newid yn yr hinsawdd yn aml yn effeithio ar lynnoedd mewn amryfal ffyrdd. Mae tymereddau dĹľr cynhesach yn arwain at newidiadau mewn cyfundrefnau haenu, gostyngiad mewn ocsigen tawdd, risg uwch o algâu cyanobacteriol, yn ogystal â cholli cynefin ar gyfer pysgod dĹľr oer brodorol. Gall effeithio nid yn unig ar ansawdd a swm dĹľr, ond hefyd ar weithgareddau diwylliannol a hamdden, ac economĂŻau lleol.
Mae canlyniadau ecolegol newid yn yr hinsawdd ynghyd ag effeithiau achosion hinsawdd eithafol eisoes iâw gweld mewn llynnoedd ar draws y byd a byddant yn parhau yn y dyfodol, yn aml heb rybudd nac amser i addasu,â meddai Woolway.
Mae canlyniadauâr mathau hyn o newidiadau wediâu gweld mewn llynnoedd o Barc Algonquin yn Ontario i Lyn Chad yn Affrica, Ardal y Llynnoedd yn Lloegr yn y Deyrnas Unedig i Lake Mead yn yr Unol Daleithiau.
Ăl-effeithiau cymdeithasol ac ecolegol pellgyrhaeddol
Wrth sĂ´n am sut y gall y newidiadau effeithio nid yn unig ar ansawdd a chyfanswm dĹľr, ond hefyd ar weithgareddau diwylliannol a hamdden ac economĂŻau lleol, dywedodd Sapna Sharma o Brifysgol Efrog yng Nghanada:
âMae gan newid yn yr hinsawdd Ă´l-effeithiau cymdeithasol ac ecolegol pellgyrhaeddol, ond yn aml ni ddeellir effeithiau newid yn yr hinsawdd, ynghyd â phwysau amgylcheddol eraill, ac ni sylweddolir eu harwyddocâd yn fyd-eang. Mae llawer o waith eto iâw wneud.â
Gall tymereddau aer cynhesach effeithio ar y gorchudd rhew syân ymffurfio yn y gaeaf yn achos llynnoedd y gogledd. Colli rhew yw un o ganlyniadau mwyaf amlwg cynhesuâr hinsawdd ar lynnoedd, a all gynyddu cyfraddau anweddu yn y gaeaf a thymheredd dĹľr, ac arwain at lu o effeithiau ffisegol a chemegol, gan gynnwys mwy o halltedd. Disgwylir i anweddiad blynyddol cymedrig byd-eang llynnoedd gynyddu 16 y cant erbyn diwedd y ganrif. Yn ogystal, gall llai o law hefyd gael effaith sylweddol ar lefelau llynnoedd.
Gall gostyngiadau mewn lefelau dĹľr fod yn ddifrifol mewn rhai rhanbarthau. Mae Llyn Chad wedi ei gyfrif yn hanesyddol yn un o lynnoedd mwyaf Affrica. Maeân ffinio â Chad, CamerĹľn, Niger a Nigeria, ond maeâr llyn wedi lleihauân sylweddol oherwydd llai o law yn lleol a dĹľr yn llifo o'i ddalgylch, yn ogystal â mwy o anweddiad.
âGall digwyddiadau fel tymor haf cynharach hefyd achosi anghydweddiad rhwng yr amser mae pysgod silio aâr amser lle chwilotir am fwyd, yn aml gyda goblygiadau eang iâr we fwyd. Er y gallai llawer o fythynwyr a gwersyllwyr groesawu âhaf hirachâ, mae tywydd oâr fath yn cynydduâr risg o dyfiant algaidd sylweddol, ac yn enwedig algâu cyanobacteriol, a all gael canlyniadau ecolegol pellgyrhaeddol a hyd yn oed wneud dĹľr yfed yn wenwynig,â meddai Sapna Smol.
Mae rhai o effeithiau newid yn yr hinsawdd yn creu amodau lle mae llynnoedd yn colli ocsigen sydd ei angen ar bysgod a rhywogaethau dyfrol eraill. Gall y deocsigeniad hwn gael ei waethygu gan algâu cyanobacteriol. Mae gostyngiad mewn faint o dĹľr yfed diogel sydd ar gael oherwydd planhigion algaidd niweidiol gryn dipyn yn waeth o'i gyfuno â lleihad yng nghyfaint dĹľr. Yn 2014, oherwydd algâu cyanobacteriol yn Llyn Erie buân rhaid rhwystroâr cyflenwad dĹľr yn Toledo, Ohio, tra bod nifer enfawr o algâu cyanobacteriol gwenwynig yn Llyn Taihu, Tsieina, wedi gorfodi terfynuâr cyflenwad dĹľr i ddwy filiwn o bobl am wythnos yn ninas Wuxi.
âGall tyfiant algâu sylweddol rwystro golauâr haul rhag cyrraedd y dyfroedd dyfnach a gall dadelfeniad bacteriol algâu gwaddodol arwain at ostyngiad mewn ocsigen ar gyfer pysgod dĹľr dwfn a bywyd dyfrol arall,â meddai Iestyn Woolway. âYn ogystal, gall stormydd achlysurol achosi maetholion i lifoân sydyn i mewn i lynnoedd a meithrin datblygiad algâu cyanobacteriol.â
âMae hafau cynhesach yn creuâr amodau perffaith i algâu dyfuân gynharach, yn amlach ac yn fwy dwys, fel y rhai a welir yn aml yn Llyn Tegid yng ngogledd Cymru. Gall algâu gwyrddlas niweidiol syân aml yn arnofio ar wyneb y dyfroedd fod yn fygythiad difrifol i iechyd gwartheg, anifeiliaid anwes, bywyd gwyllt a bodau dynolâ meddai Iestyn Woolway.
âGallaiâr blodau hyn hefyd effeithio ar dwristiaeth a gwerth eiddo ar lannau llynnoedd.â
Ychwanega: âWrth i ansawdd dĹľr llynnoedd ddirywio, gellir disgwyl iâr gwasanaethau ecosystem a ddarperir gan lynnoedd ddilyn yr un trywydd. Er enghraifft, cafodd digwyddiad nofio gwyllt mwyaf y Deyrnas Unedig, y âGreat North Swimâ, ei ganslo yn 2010 o ganlyniad i dyfiant algâu sylweddol, ac maeân bosib y bydd cyflenwad dĹľr yfed ffres dan fygythiad yn fuan.â
Gall tymheredd dĹľr cynhesach, tyfiant algâu sylweddol, dechrau cynharach iâr tymor tyfu, a chyfnodau hirach o haeniad thermol, ynghyd â chrynodiadau ocsigen toddedig is, gael effeithiau cronnol pwysig ac o bosib negyddol ar organebau dyfrol, megis pysgod.
âMae effeithiau newid yn yr hinsawdd hefyd yn effeithio ar sawl ffactor amgylcheddol syân gwaethygu problemau gyda chyfanswm ac ansawdd dĹľr, gan gynnwys halltiad, halogiad, a lledaeniad rhywogaethau ymledol,â meddai Sapna Smol. âGan na all bodau dynol oroesi heb ddĹľr, mae angen gwell dealltwriaeth o sut mae newid yn yr hinsawdd yn effeithio ar sut mae llynnoedd yn gweithio, ynghyd ag adnabyddiaeth o arwyddion rhybudd cynnar.â
Mae'r ymchwilwyr yn gobeithio y bydd datblygiadau diweddar mewn technoleg, megis synhwyro o bell a DNA amgylcheddol, ynghyd â mwy o weithio ar draws ffiniau meysydd traddodiadol, yn caniatĂĄu gwell dealltwriaeth oâr effaith ar lynnoedd yn y dyfodol.
Er mwyn gwireddu Nod Datblygu Cynaliadwyâr Cenhedloedd Unedig o fynediad teg at ddĹľr glân erbyn 2030, bydd cynnwys lleisiau amrywiol gan ymchwilwyr ledled y byd, gan gynnwys rhannau deheuol y byd, a rhannu syniadau ar draws disgyblaethau, yn hanfodol.
Mae'r papur, wedi ei gyhoeddi heddiw yn y cyfnodolyn BioScience.