9bach a chyfeillion i berfformio yn Pontio yn ystod wythnos yr Eisteddfod
Wrth i wythnos Eisteddfod Genedlaethol Môn agosau, mae Pontio wedi cyhoeddi y bydd 9bach a chyfeillion yn dychwelyd i Theatr Bryn Terfel i berfformio LLECHI, gwaith ar y cyd newydd sbon sy’n cynnwys agweddau gweledol, cerddorol ac awyrol ac wedi ei ysbrydoli gan thema’r chwarel a hanes Bethesda .
Cafodd LLECHI ei berfformio yn gyntaf i theatr lawn fel rhan o raglen agoriadol Pontio y llynedd. Daw cyd-gynhyrchiad 9bach a Pontio a 9bach, Lleuwen Steffan, Siân James, Caleb Rhys a Chôr y Penrhyn, yn ogystal â Vertical Dance Kate Lawrence, yr actor sgrin a llwyfan John Ogwen a’r bardd llafar Martin Daws, Awdur Ieuenctid Cymru 2013-16 at ei gilydd i berfformio cymysgedd electig o gerddoriaeth, dawns awyrol a barddoniaeth.
Dywedodd Lisa Jên o 9bach, “O'r cychwyn un, mae Llechi ‘di bod yn sbeshal…ac mi wnaethon ni deimlo fo ar y llwyfan y noson honno, dod allan i'r gynulleidfa a gweld bod nhw ‘di deimlo fo hefyd... nerth ein cyndeidia’ a'r teimlad ‘na o ddathliad. Cymuned yn dod at ei gilydd a chreu...popeth o'r galon efo lot o gariad - ‘da ni methu aros i neud o eto.â€
Ychwanegodd Elen ap Robert, cyfarwyddwr artistig Pontio, “Roedd LLECHI yn un o nifer o uchafbwyntiau i mi yn y rhaglen agoriadol. Daeth a hanes, celfyddyd a thraddodiad y diwydiant llechi a’i arwyddocâd a dylanwadau artistig i genhedlaeth newydd. Ein nod, trwy gynnig dau gyfle arall i brofi LLECHI yn ystod wythnos yr Eisteddfod yw i gyflwyno’r gwaith cyffrous hwn i gynulleidfa ehangach yn enwedig gan fod yr Eisteddfod ar garreg ein drws.â€
LLECHI
Theatr Bryn Terfel, Pontio, Bangor
7 a 9 Awst, 8pm
£15/£13 dros 60/£12 myfyrwyr a rhai dan 18 oed
neu 01248 38 28 28
Fe’i gwnaed yn bosibl ail-lwyfannu LLECHI drwy gefnogaeth hael Cronfa Bangor.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Mehefin 2017