Aiâr hyn rydych yn ei weld fyddwch chiân ei gael? Academyddion Bangor yn ymchwilio i reoli argraffiadau gan sefydliadau busnes
Bydd ârheoli argraffiadauâ, neu sut mae sefydliadau yn rheoliâr ffordd cânt eu gweld gan y cyhoedd, yn ganolbwynt ymchwil blaengar gan ganolfan newydd ym Mhrifysgol Bangor.
Mae rheoli argraffiadau wedi chwarae rĂ´l bwysig mewn sgandalau corfforaethol diweddar fel Enron, WorldCom a Parmalat. Gyda ffydd y cyhoedd yn y sector ariannol wediâi ysgwyd, bydd y Ganolfan Rheoli Argraffiadau mewn Cyfathrebu Cyfrifeg (CIMAC) ym Mangor yn bwrw goleuni ar y dulliau a ddefnyddir gan gwmnĂŻau i reoli eu delweddau, gan felly helpu i atal y cyhoedd rhag cael eu twyllo gan 'sbin'.
Mae CIMAC wedi ei leoli yn y Brifysgol aâi amcanion yw hyrwyddo, cynnal ac annog ymchwil arloesol iâr ffordd y gall cyfathrebu cyfrifeg - syân cynnwys datganiadau ariannol, adroddiadau blynyddol a gwefannau - gael ei ddefnyddio i gamliwio argraff y cyhoedd o gwmni. Er gall y ddelwedd a gyflwynir yn aml fod yn un gwir, gellir defnyddio rheoli argraffiadau i hyrwyddo nodweddion cadarnhaol sefydliad a chuddio'r agweddau hynny a allai niweidio ei enw da.
âNid yw rheoli argraffiadau wedi ei gyfyngu i gwmnĂŻau mawr rhestredigâ, meddai Dr Doris Merkl-Davies, Dirprwy Gyfarwyddwr CIMAC. âMae pob sefydliad, gan gynnwys cwmnĂŻau preifat, sefydliadauâr sector cyhoeddus ac elusennau yn defnyddio âsbinâ i gael eu gweld mewn golau ffafriol, syân golygu bod rheoli argraffiadau yn rhywbeth syân effeithio arnom i gyd mewn rhyw ffordd.â
Bydd y ganolfan newydd yn cael ei lansio ddydd Gwener, 15 Mehefin, a bydd dan arweiniad yr Athro Lynn Hodgkinson aâi chydweithwyr Dr Merkl-Davies a Dr Aziz Jaafar.
Ewch i am wybodaeth bellach am lansiad swyddogol CIMAC.
Dyddiad cyhoeddi: 14 Mehefin 2012