Byddwch Fentrus yn lansio Cronfa Ddechrau Newydd
Weithiau cyllid yw’r unig beth sy’n rhwystro datblygiad syniad ar gyfer cynnyrch neu wasanaeth newydd. Gyda hyn mewn cof, mae’r yn y Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd wedi datblygu cynllun sy'n gwbl newydd i Brifysgol Bangor. Hwn yw'r Gronfa Ddechrau, lle gall myfyrwyr unigol, grwpiau neu gymdeithasau Undeb y Myfyrwyr gyflwyno syniad busnes. Yna, caiff y rhai a roddir ar y rhestr fer gyfle i gyflwyno eu syniadau i banel o feirniaid. Trwy’r cynllun hwn, a gyllidwyd gan Lywodraeth Cymru, gall myfyrwyr ennill hyd at £150 o arian i gymryd y camau cyntaf i fyd busnes.
Yn y rownd gyntaf ddechrau Tachwedd cafwyd ystod gyffrous o syniadau newydd. Fe wnaeth panel o bum beirniad ystyried y syniadau ar y rhestr fer yn erbyn meini prawf ymarferoldeb ac arloesi. Dyfarnwyd y wobr gyntaf o ÂŁ150 i Thomas Potter, myfyriwr Ă´l-raddedig yn yr Ysgol Gwyddorau Eigion, am syniad arloesol yn ymwneud â chadw gwenyn trwy gysylltu â’r gymuned leol. Yn gydradd ail cafwyd cynigion gan Streetlaw, Bangor Special Olympics a Recipe in a Jar ac yn gydradd drydydd daeth BUBES (Âé¶ąAV Business & Enterprise Society), OTC a New Music Concert. Llongyfarchiadau i’r holl enillwyr a diolch i’r holl gyfranwyr.
“Mae’n rhyfeddol gweld cynlluniau myfyrwyr yn ystod gwahanol gamau eu datblygiad, o ddechrau syniad arloesol i gynllun busnes cyflawn. Dwi’n teimlo ei bod yn fraint gwneud cyfraniad bychan at y twf hwnnw.” Ffion Llwyd-Jones, FLJ Media
Rydym ni yn y Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yn cael ein synnu’n gyson gan nifer y syniadau busnes arloesol rydym yn dod ar eu traws gan fyfyrwyr o bob disgyblaeth. Cynhyrchir rhai ar gyfer cystadlaethau a digwyddiadau arbennig, tra bo eraill yn syniadau sydd wedi bod ar y gweill mewn rhyw ffordd neu’i gilydd ers blynyddoedd. Mae’r cynllun newydd hwn yn ein galluogi i hyrwyddo’r ffrwd greadigol hon a'u galluogi i fynd â'u cynlluniau ymlaen i'r cam nesaf. Bydd myfyrwyr sy’n cymryd rhan yn ennill pwyntiau ychwanegol tuag at Gwobr Cyflogadwyedd Bangor. Bydd cyfle arall i fyfyrwyr gyflwyno eu syniadau yn semester dau.
Myfyrwyr a ddaeth i’r Rownd Derfynnol:
Cadw Gwenynod - Thomas Potter, Ysgol Gwyddorau Eigion
Streelaw – Iwan Emlyn Jones, Joshua Simpson, Thomas Pugh Jones, Ysgol y Gyfraith
Bangor Special Olympics - Lucy Bryning , Stacey Hunter, Ceri Christian Jones – Ysgol Seicoleg
Claire Massey , Niamh-Elizabeth Reilly – Ysgol Gwyddor Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer
Recipe in a Jar – Natalie Pluck, Lisa Marie Oliver – Ysgol Seicoleg, Adam Sharpley, Ysgol Gwyddorau Biolegol
Âé¶ąAV Officer Training Corp (OTC) - Lindsay Hurst , Ysgol Gwyddor Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer, Harry McCarthy, Ysgol Ieithyddiaeth ac Iaith Saesneg
Âé¶ąAV Business & Enterprise Society (BUBES) – Samantha Austin & Matthew Jackson, Ysgol Ieithyddiaeth ac Iaith Saesneg
New Music Concert – Allen Ince, Robert Thompson – Ysgol Cerddoriaeth
Byddai’r tîm Byddwch Fentrus yn falch o nawdd neu roddion gan unrhyw un sydd eisiau cefnogi’r fenter myfyrwyr – cysylltwch â Michelle Hamlet os gwelwch yn dda: B-enterprising@bangor.ac.uk
Dyddiad cyhoeddi: 21 Tachwedd 2011