Canolfan Cymraeg i Oedolion ar y brig
Mae dysgwyr y Gymraeg drwy Gymru gyfan wedi lleisio eu barn am y cyrsiau Cymraeg i ddysgwyr, ac mae wedi sgorio’n sylweddol uwch na’r cyfartaledd cenedlaethol.
. Mae ffigyrau arolwg blynyddol gan Ipsos MORI, ar ran llywodraeth Cymru, yn dangos yn glir fod Canolfan CiO y Gogledd yn cynnig gwasanaeth o’r radd flaenaf i ddysgwyr. Mae’r data yn dangos fod bodlonrwydd dysgwyr yn y gogledd yn sylweddol uwch na’r cyfartaledd cenedlaethol gyda:
- 95% o ddysgwyr y gogledd yn meddwl fod darparwyr y cyrsiau yn dda neu’n dda iawn (93% yn 2013) a dim un dysgwr yn meddwl eu bod yn wael. Mae hyn yn cymharu â chanran o 87% ar gyfartaledd trwy Gymru
- Mae 95% o ddysgwyr y gogledd hefyd yn meddwl fod eu cyrsiau yn cyfarfod â’u disgwyliadau neu’n well na hynny. Hyn yn cymharu â 92% trwy Gymru ar gyfartaledd
Wrth ddadansoddi boddhad dysgwyr y gogledd yn gyffredinol, o’r 5 cwestiwn a gafwyd, roedd y Ganolfan yn rhagori’n sylweddol ar y cyfartaledd cenedlaethol ymhob cwestiwn, ac mewn 3 chwestiwn yn cyrraedd lefel Rhagorol, sy’n atgyfnerthu canfyddiadau Estyn yn 2012 a ddyfarnodd y Ganolfan fel un Rhagorol; yr unig un yng Nghymru. Ymysg yr adborth a dderbynniwyd yn ddi-enw drwy’r adroddiad gan y dysgwyr cafwyd sylwadau megis:
“excellent teaching delivered in a fun way which keeps people interested and motivatedâ€
“ … provides many different methods to help us learn Welsh, inside and outside of classâ€
“The tutors are friendly and helpful…I would recommend this course to anybodyâ€
“The course is very structured, meaning you are always learning new things whilst reinforcing the older stuffâ€
Dywedodd Ifor Gruffydd, Cyfarwyddwr Canolfan CiO y Gogledd
“Rydym yn falch iawn fod llais y dysgwyr yn adlewyrchu’r gwaith ardderchog mae ein tiwtoriaid yn ei wneud drwy’r flwyddyn. Ethos y Ganolfan yw cynnig y safon uchaf posib, ac fe fyddwn yn parhau i wrando ar ein dysgwyr a thrafod gyda hwy er mwyn cynnal ein safonau yn y dyfodolâ€
Dyddiad cyhoeddi: 25 Mehefin 2014