CERQual: Dull newydd o gefnogi defnyddio tystiolaeth ansoddol wrth wneud penderfyniadau
Mae papur newydd a gyhoeddwyd yr wythnos hon yn PLOS Medicine yn disgrifio dull gweithredu arloesol ac eglur i asesu faint o ffydd y dylid ei roi mewn darganfyddiadau o ddadansoddiadau tystiolaeth ansoddol.
Bwriad y dull gweithredu newydd, a elwir yn CERQual (âConfidence in the Evidence from Reviews of Qualitative researchâ), yw helpu rhai syân gwneud penderfyniadau i ddefnyddio tystiolaeth ansoddol ar gyfer penderfyniadau a pholisiauân ymwneud â gofal iechyd a lles cymdeithasol.
Pam mae CERQual yn bwysig?
Gall darganfyddiadau o ddadansoddiadau ymchwil ansoddol helpu i roi tystiolaeth ynghylch ymarferoldeb a phriodoldeb ymyriadau. Gallant roi gwell golwg hefyd ar ffactorau syân dylanwadu ar weithredu ymyriadau. Defnyddir dadansoddiadau oâr fath yn gynyddol wrth wneud penderfyniadauân gysylltiedig ag iechyd a pholisĂŻau cymdeithasol. Fodd bynnag, maeâr papur yn dangos nad oedd llawer o sylw wedi ei roi tan yn ddiweddar i asesu faint o ffydd y dylid ei roi mewn darganfyddiadauân deillio o ddadansoddiadau tystiolaeth ansoddol.
Meddaiâr Athro Jane Noyes o Ysgol Gwyddorau Cymdeithas Prifysgol Bangor a chyd-ddatblygwr y dull CERQual o weithredu, âgall defnyddio CERQual helpu awduron dadansoddiadau tystiolaeth ansoddol i ystyried, dadansoddi ac adrodd ar ddarganfyddiadau adolygiad mewn ffordd fwy defnyddiol. Gall CERQual helpu rhai syân gwneud penderfyniadau, a defnyddwyr eraill, i ddeall faint o ffydd iâw roi mewn darganfyddiadau o ddadansoddiadau tystiolaeth ansoddol. Bydd hyn yn eu cynorthwyo i farnu faint o bwyslais iâw roi ar ddarganfyddiadau pan maent yn gwneud eu penderfyniadau.â
Maeâr dull gweithredu CERQual wedi cael ei ddefnyddio eisoes mewn dwy ddogfen ganllaw a gyhoeddwyd gan Sefydliad Iechyd y Byd (WHO). Meddai Metin GĂźlmezoglu, o Adran Iechyd ac Ymchwil i Atgenhedlu yn WHO, a oedd yn gyfrifol am un oâr canllawiau hyn: âMaeâr dull CERQual o weithredu yn werthfawr iawn iân helpu i ddefnyddio tystiolaeth ansoddol yn briodol wrth ddatblyguâr argymhellion. Rydym yn rhagweld y defnyddir y dull hwn yn helaeth yn WHO yn y dyfodol, ac mewn sefydliadau eraill syân ymwneud â datblygu canllawiau.â
Cyfleoedd newydd
Mae CERQual yn cael ei ddatblygu gan is-grĹľp o GRADE (Grading of Recommendations Assessment, Development, and Evaluation) (www.gradeworkinggroup.org). Yn y gweithgor hwn gwelir cydweithio anffurfiol ymysg rhai sydd â diddordeb a budd mewn asesu faint o ffydd y dylid ei roi mewn tystiolaeth yn deillio o ddadansoddi tystiolaeth ansoddol. Rydym yn annog rhai syân awyddus i weithio yn y maes hwn i ymuno âân grĹľp drwy ein gwefan () a chyfrannu at ddatblyguâr dull gweithredu CERQual.â
Maeâr papur CERQual yn awr ar gael am ddim ar wefan PLOS Medicine yn :
Dyddiad cyhoeddi: 6 Tachwedd 2015