Croesawu “Brenhines” y Wladfa
O'r chwith: Iona Rhys Cooke, Lynette Hunter - Prifysgol Bangor gyda Luned Gonzalez a Nadine Laporte, gorwyresau Michael D Jones a Lewis Jones.Derbyniodd Prifysgol Bangor ymwelydd arbennig iawn yn ddiweddar, sef Luned Gonzales, disgynnydd uniongyrchol o'r Cymry ag ymsefydlodd ym Mhatagonia 150 mlynedd yn Ă´l.
Mae Luned yn un o Gymry Patagonia ac ar hyn o bryd ar daith yng Nghymru. Mae ganddi raglen brysur wedi’i threfnu ar ei chyfer ond llwyddodd i ddod i’r Brifysgol yr wythnos diwethaf i weld arddangosfa “Y Cymry ym Mhatagonia”.
Mae Luned yn perthyn i linach bwysig yn hanes y Wladfa. Mae’n wyres i Llwyd ap Iwan a Myfanwy Ruffydd ac yn or-wyres i Michael D Jones a Lewis Jones, un yn sefydlydd y fenter a’r llall yn arweinydd cyntaf y Wladfa.
Rhoddodd Luned Gonzales sêl ei bendith ar yr arddangosfa ac mae hi a Iona Rhys Cooke (sydd hefyd yn or-wyres i Michael D Jones) wedi cyflwyno rhodd i Lynette Hunter o’r Archifdy, sef plac gwydr ac arno lun o Michael D Jones ar ran y teulu.
Mae’r arddangosfa ar agor i bawb i’w weld yng Nghoridor Ystafell y Cyngor ym Mhrif Adeilad y Brifysgol, ac mae’n parhau hyd ddiwedd y flwyddyn.
Dyddiad cyhoeddi: 4 Mehefin 2015