Cynhadledd Seicoleg gyntaf i’w gynnal yn y Gymraeg
Cynhelir y gynhadledd Seicoleg gyntaf i’w chynnal yn gyfan gwbl yn Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor ddydd Llun, 4 Tachwedd 2013.
fydd yn cyflwyno’r digwyddiad. Mae’r ysgol hon yn fyd- enwog ac wedi bod yn datblygu ei darpariaeth seicoleg cyfrwng Cymraeg yn ddiweddar. Mae’r gynhadledd yn rhad ac am ddim ond rhaid cofrestru ymlaen llaw. Bydd gwasanaeth cyfieithu ar y pryd i’r cynadleddwyr di-Gymraeg.
Meddai Dr Elin Walker Jones, Seicolegydd Clinigol a Darlithydd, ac un o drefnwyr y digwyddiad,
“Mae’r Ysgol Seicoleg yn parhau i hyrwyddo cyfleoedd i ddatblygu cyfeiriadau newydd ym maes Seicoleg. Dyma'r tro cyntaf erioed i gynhadledd seicoleg gael ei chynnal yn gyfan gwbl drwy gyfrwng y Gymraeg. Rydym yn ddiolchgar iawn i'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn ogystal â'r Ysgol Seicoleg a Phrifysgol Bangor am eu gweledigaeth a'u nawdd i'n galluogi i wireddu'r freuddwyd hon.â€
Ychwanegodd: “Mae’n bwysig bod myfyrwyr ar bob lefel, ac ymarferwyr, yn cael cyfle nid yn unig i drafod seicoleg drwy gyfrwng y Gymraeg, ond hefyd i drafod datblygiad y pwnc yn Gymraeg. Er enghraifft, datblygu ymyriadau sydd ar gael i bobl yn Gymraeg, i bobl sy’n fwy cyfforddus yn cyfathrebu yn yr iaith.â€
Dr Carl Hughes fydd y prif siaradwr yn y gynhadledd. Mae Dr Hughes yn gyfarwyddwr cyrsiau ôl-radd Dadansoddi Ymddygiad Cymhwysol (ABA) yn Ysgol Seicoleg Prifysgol Bangor ac yn ddirprwy gyfarwyddwr y Ganolfan Newid Ymddygiad Cymru sydd newydd ei sefydlu. Dr Hughes yw’r ifancaf i ennill Gwobr Gwasanaeth Nodedig ym maes Dadansoddi Ymddygiad gan y gymdeithas, The Society for the Advancement of Behavior Analysis (SABA).
Eglurodd Dr Hughes, “Mae ymarferwyr sydd wedi graddio o’n cwrs ôl-radd ym maes Dadansoddi Ymddygiad Cymhwysol yn aml yn gweithio gyda phlant sydd ag anghenion dysgu ychwanegol mewn ysgolion prif ffrwd a sefydliadau addysgol arbennig. Yn ddiweddar, rydym wedi sefydlu Cynllun Bwrsariaeth Cymraeg i gyfrannu at ddatblygu dadansoddwyr ymddygiad medrus fydd yn gallu cael gwaith yn lleol yn gweithio yn Gymraeg a Saesneg. Mae’r gallu i ymarfer yn glinigol yn y ddwy iaith yn hollbwysig yng ngogledd orllewin Cymru lle mae’r mwyafrif o’r boblogaeth yn siaradwyr Cymraeg a’r rhan fwyaf o’r ysgolion yng Ngwynedd yn darparu addysg ddwyieithog.â€
Rhoddir cyflwyniadau’r gynhadledd gan ymchwilwyr lleol, staff a myfyrwyr yr Ysgol Seicoleg. Bydd amrywiaeth o bynciau dan sylw yn cynnwys Food Dudes, y Blynyddoedd Rhyfeddol, prosesu emosiynau ac iaith, strôc a dwyieithrwydd, iechyd oedolion gydag anableddau dysgu a nifer o bynciau eraill. Cyflwynir y projectau ymchwil arloesol hyn drwy gyfrwng y Gymraeg gan gyfrannu at nod y Coleg Cymraeg Cenedlaethol o gynyddu cyfleoedd academaidd cyfrwng Cymraeg. Mae i hyn oblygiadau i staff a myfyrwyr y brifysgol a hefyd i ymarferwyr sy’n anelu at ragoriaeth yn eu hymarfer clinigol.
Dyddiad cyhoeddi: 24 Hydref 2013