Datblygiad Cynllunio ar gyfer Parc Gwyddoniaeth Menai
Mae Prifysgol Bangor yn croesawu’r newyddion fod Parc Gwyddoniaeth Menai Cyf () wedi derbyn caniatâd cynllunio amlinellol gan Gyngor Sir Ynys Môn ar gyfer datblygiad pwrpasol M-SParc.
Nod y prosiect, a fydd yn derbyn cyllid o £10 miliwn gan Lywodraeth Cymru, yw creu economi clwstwr unigryw i annog diwydiant uwch-dechnoleg a phartneriaethau ymchwil gwyddonol yng ngogledd-orllewin Cymru. Hefyd mae’r prosiect yn gwneud cais am gyllid gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop.
Mae gweledigaeth M-SParc ar gyfer cyfnod o 30 mlynedd yn seiliedig ar greu cyfleoedd cyflogaeth hirdymor hyfedr i bobl leol, gan ddatblygu amgylchedd o rannu gwybodaeth a chreu canolbwynt economaidd mewn sectorau megis carbon isel, ynni a’r amgylchedd a TGCh. Byddai’r parc gwyddoniaeth yn creu pont rhwng cwmnïau o’r fath a Phrifysgol Bangor, sef perchnogion M-SParc.
Dywedodd cyfarwyddwr Parc Gwyddoniaeth Menai, Ieuan Wyn Jones, “Mae’r caniatâd cynllunio amlinellol yn gam mawr ymlaen i M-SParc ac mae’n nodi cychwyn pennod newydd gyffrous yn adfywiad economaidd Ynys Môn a gogledd-orllewin Cymru.
“Rydym yn gwybod yn nol tystiolaeth ryngwladol fod parciau gwyddoniaeth yn gweithio. Mae busnesau newydd wedi’u lleoli mewn parc gwyddoniaeth yn gallu disgwyl cyfradd lwyddo o 90% o gymharu â chyfradd lwyddo o 56% ar gyfer busnesau sy’n gweithredu y tu allan i amgylchedd parc gwyddoniaeth.
“Mae rhywfaint o ffordd i fynd cyn i ni dderbyn caniatâd cynllunio llawn, ond rwy’n edrych ymlaen at barhau i weithio ochr yn ochr â’r gymuned leol yn y Gaerwen a’r cymunedau busnes ac ymchwil gwyddonol ehangach i greu parc gwyddoniaeth yn Ynys Môn.â€
Ychwanegodd Gweinidog yr Economi, Edwina Hart, “Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gefnogi gwyddoniaeth ac arloesedd fel gyrwyr pwysig ar gyfer creu twf economaidd a swyddi. Rydym yn croesawu penderfyniad yr awdurdod cynllunio i gefnogi’r cyfleuster newydd hwn a fydd, gobeithio, yn cyfrannu’n sylweddol at dwf yr economi lleol ac yn arwain at greu swyddi hyfedr.â€
Ar ran Prifysgol Bangor, dywedodd yr Athro John G Hughes, “Mae’r penderfyniad cynllunio hwn yn newyddion gwych i Gymru gan y bydd M-SParc yn darparu canolfan unigryw ar gyfer masnacheiddio ymchwil gwyddonol arloesol a bydd yn gatalydd ar gyfer economi uwch-dechnoleg rhanbarthol gwirioneddol.â€
Dyddiad cyhoeddi: 18 Mai 2015