Digwyddiad LifeStartFest cyntaf yng Nghymru
Jack Newton
Cyngor gyrfaoedd, rhwydweithio a pizza i fyfyrwyr yng Nghymru!
Mae Jack Newton newydd raddio, wedi ennill Her LifeStart ac wedi derbyn , yr asiantaeth hysbysebu awyr agored rhyngwladol. Bydd Jack yn un o’r siaradwyr yng Ngŵyl LifeStart cyntaf Cymru ym Mhrifysgol Bangor ar 26 Medi.
Yn ymuno â Jack i ateb cwestiynau fel ‘Beth mae’n ei gymryd i lansio gyrfa lwyddiannus?’ a ‘Sut i ddewis y proffesiwn cywir yn wyneb dewisiadau di-ri?’ y mae siaradwyr rhyngwladol gan gynnwys Katy Rea o asiantaeth Battalion, ym Manceinion, a Monika Kanokova, awdur ‘This Year Will Be Different: the insightful guide to becoming a freelancer’. Bydd eraill hefyd a fydd yn rhannu eu profiadau gyrfaol i roi cymorth i fyfyrwyr oresgyn anawsterau ar gychwyn gyrfa.
Cynhelir y digwyddiad rhwng 2:00pm a 7:00pm, ddydd Mercher, 26 Medi, mewn partneriaeth â Phrifysgol Bangor, ac mae'r llwyfan ar-lein i fyfyrwyr, LifeStart, gan Virgin, wedi darparu rhaglen unigryw i fyfyrwyr gan ddod â mentoriaid at ei gilydd i helpu myfyrwyr i wneud ffrindiau a chwrdd â phobl y gallent gydweithio â nhw ar brojectau, ar ddechrau’r flwyddyn academaidd newydd.
Meddai Lowri Owen, Rheolwr Project Byddwch Fentrus y Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd:
“Rydym yn rhoi pwyslais ar roi’r sgiliau a’r offer i’n myfyrwyr gynnal eu gyrfaoedd eu hunain. Buom yn hybu Heriau LifeStart i’n myfyrwyr am y tro cyntaf y llynedd, a chawsom ein plesio’n fawr gyda pha mor dda yr oedd ein myfyrwyr yn ymateb i’r heriau a osodwyd - mae’n rhaid ein bod yn gwneud rhywbeth yn iawn! Dyna pam ein bod yn falch o gael cyflwyno’r digwyddiad arbennig yma i’n myfyrwyr, ac i unrhyw fyfyrwyr eraill yng Nghymru, sydd eisiau cofrestru ar gyfer y digwyddiad.â€
Mae’r digwyddiad ar agor i fyfyrwyr ac yn rhad ac am ddim.
Rhagor o wybodaeth:
Dyddiad cyhoeddi: 18 Medi 2018