Diwrnod Coffau’r Holocost
Mae’n anrhydedd i Brifysgol Bangor gael cefnogi gwasanaeth sydd i’w gynnal eleni yn Siambr Dafydd Orwig, Pencadlys Cyngor Gwynedd, Caernarfon, ddydd Mercher, 27 Ionawr 2016.
Mae Diwrnod Coffau’r Holocost yn cofio achosion o hil-laddiad yn ystod yr Ail Ryfel Byd, yn ogystal â thrychinebau mwy diweddar yn Cambodia, Bosnia, Rwanda a Darfur.
Bwriad Diwrnod Coffau’r Holocost yw ysgogi pobl i wneud yn siŵr nad yw digwyddiadau dychrynllyd a wnaed yn ystod yr Holocost, ac yn fwy diweddar ar ffurf hil-laddiad, yn cael eu hanghofio na’u hailadrodd, naill ai yn Ewrop nag yng ngweddill y byd.
Dywedodd Cadeirydd Cyngor Gwynedd, y Cynghorydd Dilwyn Morgan: “Mae croeso i bawb fynychu’r gwasanaeth yn Siambr Dafydd Orwig, gan ymuno a miloedd o bobl drwy’r byd i gofio’r gorffennol a gosod seiliau ar gyfer byd diogel a theg i’r dyfodol.â€
Cynhelir y Gwasanaeth yn Siambr Dafydd Orwig, Pencadlys Cyngor Gwynedd, Stryd y Jêl, Caernarfon am 10.30 am ddydd Mercher 27 Ionawr.
Dyddiad cyhoeddi: 27 Ionawr 2016