Dull âPlane Easyâ yn gwneud golff yn hawdd
Matthew Wharton o The Golf Performance Studio, Bangor.Er gwaethaf manteision ymarfer corff ysgafn i gymedrol a rheolaidd i iechyd, mae lefelau gweithgarwch corfforol ymhlith oedolion yng Nghymruân dal i fod yn isel. Maeân bosib i golff lenwiâr bwlch hwnnw ac arwain at nifer o fanteision; fodd bynnag, maeâr niferoedd syân chwarae golff wedi bod yn gostwng yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Maeâr hyfforddwr golff, Matthew Wharton (o The Golf Performance Studio ym Mangor), un o gyn-fyfyrwyr Prifysgol Bangor, yn ceisio mynd iâr afael â hyn gydaâi ddull chwarae golff âPlane Easyâ. Maeâr dull âPlane Easyâ yn gymorth dysgu syân canfod y plân cywir ar gyfer swingio clwb golff, gan helpu golffwyr newydd i ddysgu sgiliau chwarae golff yn gyflymach. Mae Cymdeithas y Golffwyr Proffesiynol (PGA), sydd â diddordeb mewn helpu pobl i ddatblygu sgiliau chwarae golff yn gynt, eisoes wedi mynegi diddordeb yn y dull hwn.
Defnyddiodd Matthew, a raddiodd o Brifysgol Bangor yn 2013, ei gwrs israddedig mewn Chwaraeon a Seicoleg Ymarfer Corff i ddatblyguâr dull chwarae golff âPlane Easyâ drwy edrych ar wahanol ffyrdd o gyflymuâr broses ddysgu ym maes golff, drwy ddefnyddio ffocws allanol i ddysguân gynt. Mae bellach yn datblyguâr dull hwn ymhellach mewn prosiect ymchwil ar y cyd â Dr Andy Cooke oâr (SSHES), gyda chefnogaeth (ATM).
Rhywun a fuân cymryd rhan yn yr ymchwil.Cysylltodd Dr Andy Cooke a Dr James Hardy o SSHES â Matthew i ofyn iddo ymhelaethu ar ei astudiaeth israddedig yn ymchwilio i beth syân digwydd yn yr ymennydd aâr corff pan fydd pobl yn dysgu sgiliau echddygol. Dywedodd Dr Cooke âyr hyn rydyn niân ceisio ei wneud yw cofnodi gweithgarwch ymennydd pobl wrth iddynt wneud symudiadau penodol; yn fy ymchwil fy hun, astudiais y gwahaniaeth rhwng gweithgarwch ymennydd golffwyr proffesiynol a phobl a oedd yn gwbl newydd iâr chwaraeon. Mae hyn yn cyd-fynd yn berffaith ââr prosiect hwnnw. O ganlyniad iâr astudiaeth, byddwn yn cael tystiolaeth wyddonol gadarn i gefnogiâr dull âPlane Easy'.
Mae ATM, prosiect ESF syân cysylltu cwmnĂŻau ag academyddion a myfyrwyr i brofi cynnyrch, gwasanaethau a dulliau newydd, yn cefnogiâr prosiect. Dywedodd y myfyriwr syân gweithio ar y prosiect, Eduardo Bellomo, âmae bod yn rhan o brosiect go iawn tra rydw iân astudio yn gyfle gwych i mi; rwyân gallu gweld sut maeâr dull âPlane Easyâ yn gweithio i gleientiaid yn y maes. Maeân brofiad gwych i mi wrth i mi weithio tuag at fy nod o ddod yn seicolegydd ym maes chwaraeonâ.
Roedd Matthew wrth ei fodd yn cael y cyfle i gymryd rhan gydag ATM, a dywedodd âpan wnes i raddio, roeddwn iân dymuno cadw rhyw gysylltiad ââr Brifysgol. Mae ATM wedi caniatĂĄu i mi barhau gyda fy ymchwil, a chanolbwyntio ar ddatblyguâr busnes. Mae wedi ei gwneud yn bosib i mi ddod yn awdurdod ac yn arweinydd yn y farchnad gyda chynnyrch sydd wediâi ddilysuân wyddonol, cynnyrch a fydd yn bwynt gwerthu unigryw ar gyfer fy ngwasanaethâ.
Eduardo Bellomo (Myfyriwr ATM), Matthew Wharton (The Golf Performance Studio), Dr James Hardy (SSHES), Dr Andy Cooke (SSHES).Dywedodd Dr Penny Dowdney, rheolwr prosiect ATM, âmae hyn yn fuddugoliaeth ddwbl i ni fel prosiect; maeân gyfle i Eduardo ennill cymhwyster meistr a chael profiad go iawn o weithio mewn maes y mae'n dymuno gweithio ynddo'n broffesiynol, ac yn helpu Matthew i barhau gyda'i ymchwil yn yr ysgol".
Dyddiad cyhoeddi: 9 Rhagfyr 2014