Dyfodol pryd y gallai lensys cyffwrdd âdeallusâ ddarogan eich risg o gael annwyd cyffredin: Gwrthgyrff hylif dagrau aâr annwyd cyffredin
Pam y gall rhai pobl fynd trwy gydol y gaeaf heb yr arwyddion lleiaf o annwyd, tra bo eraill fel pe baent yn cael pob annwyd syân mynd o gwmpas?
Yn Ă´l gan GrĹľp Ymchwil Prifysgol Bangor i Eithafion yn yr Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer, gallai fod modd rhagweld y tebygolrwydd i gyfranogwyr gael annwyd cyffredin trwy ddadansoddi lefel y gwrthgyrff mewn hylif dagrau.
Mae imiwnoglobwlin secretu A (SIgA) yn wrthgorff pwysig syân gweithredu fel ârheng flaen yr amddiffynâ i atal firysau a bacteria rhag mynd i mewn iâr corff. Mae digonedd o SIgA ar gael mewn secretiadau mwcosaidd megis poer, dagrau a rhedlifauâr trwyn, yn ogystal ag ym mwcws y llwybrau anadlu ac yn y coluddion.
Wrth gasglu samplau bach iawn o hylif dagrau oâr amrant isaf a dadansoddi SIgA, sylwodd yr Athro Neil Walsh aâi dĂŽm fod unigolion â lefelau isel o SIgA hylif dagrau hyd at naw gwaith yn fwy tebygol o brofi symptomau annwyd cyffredin o fewn yr wythnos ddilynol, wrth ochr unigolion â secretiadau SIgA arferol yn eu dagrau. Ar ben hynny, pan oedd SIgA dagrau rhywun yn lleihau o ~30%, roeddent chwe gwaith yn fwy tebygol o gael annwyd.
Mewn ymchwiliadau dilynol, cafwyd lleihad o SIgA dagrau ar Ă´l straen corfforol yn dilyn ymarfer hir; effaith a adwaenir fel y âffenestr agoredâ lle ceir lleihad dros dro mewn imiwnedd ar Ă´l ymarfer trwm, fel bod unigolion yn fwy agored i heintiau megis yr annwyd cyffredin.
Eglurodd yr Athro Walsh fel a ganlyn: âMae galw arbennig am ddulliau amser-real, heb fod yn fewnwthiol, o fonitro gweithrediad imiwnedd, er mwyn canfod sut y mae athletwr yn ymateb i hyfforddiant. Er bod hyfforddiant straenus yn gwella ffitrwydd a pherfformiad, gall hyfforddiant trwm estynedig leihau imiwnedd a chynyddu perygl unigolyn o gael annwyd, ac o bosibl heintiau eraill hefyd.â
Walsh aâi gydweithwyr ywâr rhai cyntaf i edrych ar bosibiliadau dadansoddi hylif dagrau o ran canfod newidiadau mewn imiwnedd ac amledd heintiau resbiradol. Yn ddiweddar, mae hylif dagrau wedi ennyn cryn ddiddordeb fel cyfrwng ar gyfer monitro biofarcwyr eraill mewn modd nad ywân fewnwthiol. Yn 2012, dangosodd Walsh aâi gydweithwyr fod modd defnyddio hylif dagrau i ganfod statws hydradiad trwy ddefnyddio dyfais osmolaredd, aâr llynedd, dadorchuddiodd Google a Novartis lens gyffwrdd âddeallusâ a chanddiâr gallu i ganfod lefelau glwcos y gwaed yn achos cleifion diabetig.
Medd Walsh: âEfallai y caiff mesuriadau mesur imiwnedd trwy ddagrau eu cynnwys, cyn hir, mewn lensys cyffwrdd âdeallusâ syân gallu monitroân barhaus amddiffyniad y corff aâi risg o gael heintiau.â
Dyddiad cyhoeddi: 16 Rhagfyr 2015