Dylai safbwyntiau diwylliannol ddylanwadu ar bolisĂŻau cadwraeth
Yn ôl canlyniadau arolwg a gynhaliwyd dan arweiniad Prifysgol Bangor, mae angen i bolisïau ar Gadwraeth roi ystyriaeth i wahanol safbwyntiau diwylliannol ynglšn â gwerth gwahanol rywogaethau.
Casglu data ar barn pobol am fywyd morol Pan gynhaliodd ymchwilwyr arolwg dros bobl ar draws Ewrop, daeth safbwyntiau tra gwahanol iâw amlwg ynglšn â phwysigrwydd cymharol of rhywogaethau mĂ´r, o algâu hyd at famaliaid. Yn awr, bydd llunwyr polisĂŻau ar draws Ewrop yn rhoi ystyriaeth iâr canlyniadau hyn, ar Ă´l iddynt gael eu cynnwys yng ngwasanaeth newyddion electronig y Comisiwn Ewropeaidd ar gyfer lunwyr polisĂŻau. Bwriad y rhain yw helpuâr rheiny sydd wthiân brysur yn llunio polisĂŻau i gael y newyddion diweddaraf ynglšn â chanfyddiadau ymchwil amgylcheddol, fel y gallant gynllunio, gweithredu a rheoleiddio polisĂŻau effeithiol.
âMae bioamrywiaeth yn ecosystemauâr mĂ´r yn lleihau ar raddfa ddychrynllyd,â egluraâr Athro Mike Kaiser oâr Ysgol Gwyddorau Eigion, a arweiniodd yr ymchwil gydaâr diweddar Athro Gareth Edwards-Jones oâr Ysgol Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth ym Mhrifysgol Bangor a chydweithwyr ym Mhrifysgol Ynysoedd yr Açores (Azores).
âEr mwyn pennu amcanion cadwraethol a blaenoriaethu ymdrechion i arafu dirywiad bioamrywiaeth, rhaid i wneuthurwyr polisĂŻau benderfynu pa rywogaethau sydd fwyaf gwerthfawr, i ecosystemau ac i bobl, fel ei gilydd. Mae llwyddiant rhaglenni cadwraeth yn dibynnu nid yn unig ar ddealltwriaeth wyddonol o werth gwahanol rywogaethau mĂ´r, ond hefyd ar y gwerth y mae cymdeithas yn ei chrynswth yn ei roi ar y rhywogaethau hyn. Yn gyffredinol, credir bod y duedd tuag at rywogaethau adnabyddus a charismataidd, megis mamaliaid ac adar, yn gwneud rhywogaethau llai adnabyddus yn fregus.â
Gan weithio fel rhan o rwydwaith o fewn yr Undeb Ewropeaidd a gyllidwyd gan y Comisiwn Ewropeaidd, buâr ymchwilwyr yn ceisio canfod a oedd aelodauâr cyhoedd yn rhoi gwerth cyfartal ar rywogaethau ar draws Ewrop. Dewisasant gynnal eu harolwg mewn tri lleoliad arfordirol, sef Ynysoedd yr Açores, Portiwgal, Ynysoedd Sili, DU a Gwlff Gdansk, Gwlad Pwyl.
Cynhaliwyd cyfweliadau wyneb-yn-wyneb â chyfanswm o 1,502 o bobl. Cafodd pob cyfranogwr weld casgliad o ddelweddau yn cynrychioli pob grĹľp o rywogaethau, a oedd yn cynnwys rhywogaethau a oedd yn lleol yn eu rhanbarth. Gofynnwyd iddynt pa mor fodlon oeddent i dalu am gadwraeth ar gyfer gwahanol rywogaethau, ar sail taliad unigryw damcaniaethol i âymddiriedolaeth gadwraethâ. Buâr ymchwilwyr hefyd yn asesu lefel cyffredinol dealltwriaeth y cyfranogwyr o fioamrywiaeth.
Oâr cyfweliadau hyn, roedd yr ymchwilwyr yn gallu canfod gwahaniaethau eithaf arwyddocaol yn y modd yr oedd pobl oâr gwledydd hyn yn gwerthfawrogi mamaliaid, pysgod, adar, algâu ac anifeiliaid di-asgwrn-cefn. Er enghraifft, roedd cyfranogwyr yn Ynysoedd yr Açores yn prisio pysgod yn uwch na chyfranogwyr o Ynysoedd Sili, tra oedd y rheiny r Ynysoedd Sili yn rhoi pris uwch ar algâu naâr cyfranogwyr yn Ynysoedd yr Açores. Yng Ngwlff Gdansk, roedd dewisiadauân fwy amlwg wrth ochr y gwledydd eraill, a mamaliaid yn cael eu gwerthfawrogi fwyaf, ac yna pysgod, adar, anifeiliaid di-asgwrn-cefn ac, yn olaf, algâu.
Yn gyffredinol, roedd y rhan fwyaf oâr cyfranogwyr yn ymwybodol o faterion cysylltiedig â bioamrywiaeth ac yn fodlon talu i warchod bioamrywiaeth. Fodd bynnag, roedd y gwahaniaethau a gafwyd rhwng y gwledydd yn awgrymu bod cysylltiadau pobl â rhywogaethau penodol yn eu rhanbarthau eu hunain yn dylanwadu ar eu dewisiadau cadwraethol. Er enghraifft, yn Ynysoedd yr Açores, mae sgwba-blymio a physgota yn weithgareddau pwysig, o safbwynt economaidd a diwylliannol, fel ei gilydd. Gallai hyn beri i drigolion lleol osod gwerth uwch ar bysgod.
Meddaiâr Athro Kaiser: âYn Ă´l ein hymchwil, ceir tystiolaeth glir o alw cymdeithasol am warchod bioamrywiaeth y mĂ´r yn Ewrop. Er bod gwerth uchel bob amser yn cael ei roi ar famaliaid y mĂ´r, nid oeddent yn cael eu prisio gymaint yn uwch na rhywogaethau eraill ag yr oeddem wedi disgwyl. Rydym yn awgrymu bod y cyhoedd yn dod yn fwy ymwybodol oâr angen i warchod bioamrywiaeth ar draws amrywiaeth eang o rywogaethau. Fodd bynnag, dylai polisĂŻau cadwraethol effeithiol fod yn gyson â daliadau a gwerthoedd cymdeithasol, syân amrywio o wlad i wlad.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Gorffennaf 2012