Ei gerddoriaeth yn creu awyrgylch âepigâ ar y sgrin
Rhaglen llawn drama a chynnwrf fel yr X Factor oedd yn nychymyg y cyfansoddwr Owain Llwyd, wrth gyfansoddi cerddoriaeth epig ar gyfer y cyfryngau- ac roedd yn llygaid ei le i wneud hyn, gan fod y rhaglen wedi dewis a defnyddioâi gerddoriaeth.
Y cyfansoddwr a darlithydd, Owain Llwyd
Maeân ddigon bosib eich bod chithau wedi clywed cyfansoddiadau eraill gan y cyfansoddwr, sydd hefyd yn darlithio yn Ysgol Gerddoriaeth Prifysgol Bangor. Mae ei gyfansoddiadau wediâu defnyddio ar raglenni hynod boblogaidd fel Top Gear, Countryfile a Timewatch. Mae ei gyfansoddiadau hefyd wediâu defnyddio mewn gwledydd eraill; ar y fersiwn Almaeneg o raglen Big Brother, ar gyfer pencampwriaeth tenis yr US Open ac ar sianelau BBC America a Fox.
Mae Owain Llwyd newydd gychwyn darlithio yn Ysgol Gerdd Prifysgol Bangor- mewn cyfansoddi a chyfansoddi ar gyfer y cyfryngau, a hynny drwy gyfrwng y Gymraeg, wedi iddo ddilyn Ysgoloriaeth Cyfrwng Cymraeg, a ariannwyd gan Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru. Fe raddiodd o Brifysgol Bangor ac mae ganddo Ddoethuriaeth gan yr Ysgol Gerdd yn ogystal.
Mae wedi cyfansoddi a rhyddhau llond pedwar CD o gyfansoddiadau epig yn y 18 mis diwethaf. Mae CD arall o waith Owain yn cael ei ryddhauân fuan- ond peidiwch â rhuthro at eich siop gerddoriaeth leol- gweithio efo cwmni cyhoeddi cerddoriaeth ryngwladol mae Owain, a nhw sydd yn hybuâi gerddoriaeth. Maent yn anfon y CDiau at gwmnĂŻau cynhyrchu ffilm a theledu dros y byd. Hyn sydd yn dwyn ffrwyth ar hyn o bryd, wrth i gwmnĂŻau cynhyrchu ddewis ei gerddoriaeth ar gyfer eu rhaglenni. Mae hefyd yn derbyn ceisiadau a chomisiynau i gyfansoddi darnau arbennig ar gyfer rhai cwmnĂŻau cynhyrchu.
Fel yr esbonia Owain: âDwiân licio cerddoriaeth ddramatig, epig fel y gerddoriaeth mewn ffilmiau fel Gladiator a Braveheart beth bynnag,â meddai Owain. âFelly mae cyfansoddi cerddoriaeth efo themâu cryf yn dod yn hawdd i mi. Dwiân ystyried y math o gynulleidfa fydd yn gwylio a gwrando ac yn cychwyn wrth âfraslunioââr gerddoriaeth ar y piano er mwyn gosod y syniadaeth ar gyfer y gerddorfa.â
âAr gyfer y CD diweddaraf âBig Screen Atmospheresâ roedd rhaid i mi greuâr manylion ac amrywiadau cerddorol ar gyfer cerddoriaeth oedd eisoes wedi recordioân fras gan gĂ´r a cherddorfa. Bum ym Mratislavaân recordio efo cerddorfa ac ynaân recordio CĂ´r Riga yn Latfia- yn ogystal â chyfansoddi, roeddwn yn gynhyrchydd ar y CD yn cydweithio efo tĂŽm cynhyrchu fy nghyhoeddwyr, Boosey & Hawkes.â
âY briff oedd creu cerddoriaeth ysgytwol- maenâ rhaid cael lot yn digwydd mewn trelar ar gyfer ffilm epig- rhaid cael rhywbeth yn digwydd o fewn y gerddoriaeth bob pum eiliad.â
Fellyâr tro nesaf rydych chiân clywed miwsig ysgytwol yn gefndir i ryw raglen neu ffilm, wyddoch chi ddim, efallai mai cerddoriaeth Owain Llwyd, y cyfansoddwr ifanc o Lyndyfrdwy ydyw?
Mae Owain yn cyfeirio at y ffaith na fyddai ddim oâr llwyddiant hyn wedi bod yn bosib heb gefnogaeth ei rieni Mike a Shirley Brown.
Dyddiad cyhoeddi: 8 Tachwedd 2010