Gall gynhyrchu ynni drwy bŵer dŵr ar raddfa fach iawn arbed miliynau iâr diwydiant dŵr
Mae canfyddiadau ymchwil newydd gan Brifysgol Bangor a Trinity College, Dulyn wedi amlyguâr potensial am arbedion ariannol ychwanegol iâr diwydiant dŵr drwy gynhyrchu trydan gan ddefnyddio pŵer dŵr ar raddfa fach iawn (micro). Gallai arbedion ariannol o £1m y flwyddyn yng Nghymru yn unig, gyfrannu at gadw biliauân isel.
Maeâr diwydiant dŵr yn defnyddio llawer o ynni er mwyn trin, pwmpio a dosbarthu dŵr a gwastraff o amgylch y wlad. Canlyniad i hyn yw bod llawer iawn o nwyon tÅ· gwydr hefyd yn cael eu rhyddhau, yn ogystal ââr gost ychwanegol sydd ar filiauâr defnyddwyr wrth i brisiau trydan gynyddu.
Buâr project â¬1 miliwn a ariannwyd drwy raglen Iwerddon Cymru (INTERREG4A) Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF) yn archwilioâr arbedion ariannol iâr diwydiant dŵr ac i gwsmeriaid pe bai tyrbinau pŵer dŵr yn cael eu gosod o fewn y system dŵr. Edrychwyd hefyd ar effeithiolrwydd y system cyflenwi dŵr bresennol, y dechnoleg orau, beth fyddai cost cyflwyno system oâr fath a beth fyddaiâr buddiannau amgylcheddol, yn ogystal â pha gyrff sydd angen cydweithredu er mwyn iâr diwydiant dŵr gael y budd gorau o gyflwyno systemau cynhyrchu trydan-dŵr micro iâw systemau.
Roedd y canlyniadauân gadarnhaol, gan ddangos bod potensial yng Nghymru, er enghraifft, i arbed £1 miliwn ychwanegol y flwyddyn drwy gynhyrchu oddeutu 10 miliwn cilowat o drydan gan ddefnyddio safleoedd trydan-dŵr bach. Mae hynnyân ddigon o drydan i bweru o leiaf 2,000 o gartrefi yng Nghymru, a hynny drwy harneisioâr dŵr sydd eisoes yn llifo o fewn y system. Canfuwyd y byddai cwmnïau dŵr yn Iwerddon yn gwneud arbedion tebyg. Byddai hyn nid yn unig yn arbed dŵr ond hefyd yn atal tua 10,000 tunnell o nwyon tÅ· gwydr rhag cael eu rhyddhau iâr atmosffer drwy gynhyrchu trydan.
Ond roedd y partneriaid hefyd yn gwerthfawrogiâr anawsterau a godai wrth geisio ennill yr arbedion hyn yn yr hinsawdd bresennol. Ni all y dechnoleg trydan-dŵr sydd ar gael ar hyn o bryd gynnig y dechnoleg gryno cost isel sydd ei hangen i wiredduâr potensial.
Croesawodd Mike Pedley, Pennaeth Ynni Dŵr Cymru, ganfyddiadauâr project gan ddweud:
âYn Dŵr Cymru rydym eisoes yn gwneud llawer o ddefnydd o ynni dŵr, ond maeâr project yma wedi bod yn fodd i amlygu lle y gallwn wneud mwy, pe baiâr dechnoleg yn datblygu. Mae offer fel falfiau syân lleihau pwysedd yn gyffredin yn rhwydweithiau pob cwmni dŵr, ond does yr un ar hyn o bryd syân cynnig ateb ymarferol ar gyfer y mwyafrif o safleoedd.â
Yn awr mae partneriaid y project yn gobeithio mynd ââr canfyddiadau cychwynnol ymhellach trwy ddatblygu ac arddangos technoleg tyrbinau cost isel. Maent ar hyn o bryd yn chwilio am gyllid rhanbarthol ac Ewropeaidd a fyddaiân sicrhau bod Cymru ac Iwerddon yn arwain y byd mewn darparu gwasanaethau dŵr ynni-effeithlon i ddefnyddwyr. Gyda chymorth Dŵr Cymru gellir gwireddu hyn yn y blynyddoedd i ddod.
âMaeâr project Hydro-BPT wedi ein helpu ni i ddeall pethauân well a dweud y lleiafâ, meddai Dr Prysor Williams, arweinydd a chyd-ymchwilydd y project yn Prifysgol Bangor. Ychwanegodd: â Rydym yn gobeithio parhau i weithio efo Trinity College, Dulyn, y diwydiant dŵr ac eraill sydd â diddordeb ar draws yr Undeb Ewropeaidd ar brojectau eraill a fydd yn adeiladu ar y gwaith hwn. Does dim dwywaith nad ywâr diwydiant dŵr yn dangos ymwybyddiaeth o effeithlonrwydd ynni, a gall y tîm Hydro-BPT eu cynorthwyo i sicrhau dyfodol mwy cynaliadwyâ.
Dyddiad cyhoeddi: 20 Awst 2015