Lansio Elevate Cymru
Ieuan Wyn Jones AC Ynys MĂ´n yn trafod efo'r Athro Phil Molyneux, Pennaeth Coleg Busnes, Gwyddorau Cymdeithas a'r Gyfraith
Rhaglen ddysgu seiliedig ar waith yw Elevate Cymru syân rhoi cyfle i gyflogwyr a gweithwyr fanteisio ar gyrsiau wedi eu hariannuân llawn i hybu twf a chynaliadwyedd. Yn ystod y lansiad, bu tri phrif siaradwr yn annerch cynulleidfa oedd yn cynnwys dros 100 o bobl. Cynhaliwyd nifer o weithdai blasu hefyd.
Agorwyd y digwyddiad yn swyddogol gan Yr Athro John Hughes, Is-ganghellor Prifysgol Bangor, a groesawodd lansiad Elevate Cymru fel âcyfnod cyffrous iâr brifysgolâ.
Yn ei anerchiad, dywedodd yr Athro John Hughes:
âMae hwn yn amser cyffrous iâr Brifysgol. Rydym yn ymwneud ag addysg bellach a busnesau fwy nac erioed. Mae strategaeth gyffredin yn cael ei datblygu yng Nghymru trwy brifysgolion yn cydweithio gydaâi gilydd a chyda colegau. Maeâr strategaeth yn ein galluogi i weithio'n fwy effeithiol gydaâr gymuned busnes aâu cynorthwyo i ddysgu sgiliau newydd.â
Roedd AC Ynys MĂ´n, Ieuan Wyn Jones, hefyd yn siarad yn ystod y lansiad a chanmolodd Elevate Cymru fel âproject syân dod â chyfleoedd newydd i fusnesau yng Nghymruâ.
Disgrifiodd economi Cymru fel âmarchnad anodd a chreulon i gystadlu ynddi.â Ac aeth ymlaen i ddweud:
âEr mwyn aros ar y blaen, maeân rhaid bod yn arloesol. Maeân rhaid i fusnesau ddarparu nwyddau a gwasanaethau y mae pobl eisiau eu prynu, ond mae'n rhaid iddynt hefyd feddu ar sgiliau marchnata da, rheolaeth ariannol gadarn ac arweinwyr cryf.
âMae llawer o fusnesauân brin oâr amser aâr capasiti sydd eu hangen i wella sgiliau eu gweithwyr, felly mae'n rhaid i ni gynorthwyo ein prifysgolion a'n colegau i greu cysylltiadau gyda busnesau er mwyn mynd i'r afael â hyn. Nid y llywodraeth syân creu swyddi, busnesau syân creu swyddi a gall Elevate Cymru helpu busnesau i fod yn arloesol.
âMaeâr economiân ddynamig bob amser. Rydym yma i fanteisio ar gyfleoedd newydd neu grebachu a bydd Elevate Cymru yn gymorth i ddatblygu sgiliauâr gweithlu. Bydd Elevate Cymruân llwyddo yn y pen draw os gall greu mwy o swyddi a mwy o swyddi gyda chyflogau gwell. Maeân rhaid i fusnesau dyfu a chreu mwy o gyfoeth trwy fod yn fwy slic, yn gyflymach ac yn fwy creadigol.â
Dywedodd David Sullivan, Pennaeth yr Ysgol Dysgu Gydol Oes, mai diben Elevate Cymru yw ymwneud gyda busnesau a darparuâr cyrsiau aâr sgiliau maent yn gofyn amdanynt, yn hytrach naâr rhai mae prifysgolion neu golegau yn credu sydd eu hangen arnynt.
Dywedodd Sarah Ellwood, Cyfarwyddwr Gweithredol Supertemps, asiantaeth cyflogaeth sydd â swyddfeydd ym Mangor a Bae Colwyn, bod y ffaith iddi gofrestru gyda LEAD Cymru wedi ei helpu i drawsnewid ei busnes. Croesawodd Elevate Cymru fel âcam naturiol ymlaenâ fydd o fudd i arweinwyr busnes a gweithwyr.
Dywedodd Bill Farnell, arweinydd project Bangor, bod y lansiad wedi bod yn âlwyddiant ysgubolâ.
Meddai: âRydym wedi cael ymateb gwych gan y busnesau a ddaeth iâr digwyddiad ac roedd y lansiad yn llwyddiant ysgubol o safbwynt y busnesau a thĂŽm Elevate Cymru.
âMae llawer oâr perchnogion busnes aâr gweithwyr rwyf wedi siarad â hwy wedi dweud bod dull unigryw Elevate Cymru yn caniatĂĄu i fusnesau fanteisio ar hyfforddiant wedi ei gyllidoân llawn ledled Cymru oherwydd bod pob prifysgol yng Nghymru yn cydweithio ar y fenter. Roedd perchnogion busnesau a gweithwyr yn teimlo y byddai o fudd mawr iddynt gofrestru ar y rhaglen. Yn wir, mae o leiaf 16 oâr bobl yma heddiw wedi mynegi diddordeb mewn ymuno ag Elevate Cymru ac rydym yn gobeithio y bydd mwy fyth yn cofrestru yn ystod yr wythnosau a'r misoedd nesaf."
Un oâr perchnogion busnes yw Marina Kogan, hyfforddwraig broffesiynol ym Mae Colwyn.
Wrth sĂ´n am Elevate Cymru, dywedodd: âmae rhoi gymaint o gefnogaeth i fusnesau lleol yn syniad da iawn.
âMaeân amlwg mai'r prif amcan yw rhoi sgiliau a chymorth ymarferol i fusnesau allu cynyddu eu cynhyrchiant. Gydag amrywiaeth mor eang o fanteision, maeân sicr y bydd yr elw ar y buddsoddiad o gofrestru gydaâr rhaglen yn uchel.â
Dyddiad cyhoeddi: 15 Mawrth 2012