Myfyriwr PhD yn ennill y prif wobr yng Nghynhadledd âLegal Walesâ
Mae myfyriwr o Brifysgol Bangor wedi curo myfyrwyr y Gyfraith ledled Cymru i ennill prif wobr yng Nghynhadledd âLegal Wales 2012â.
Dyfynnir y brif wobr i Huw Pritchard, sydd yn flwyddyn olaf ei astudiaethau PhD yn Ysgol y Gyfraith, ar y cyd â myfyriwr o Brifysgol Caerdydd. Gofynnir i ymgeiswyr ysgrifennu traethawd yn ymateb y cwestiwn canlynol: âGyda Chynulliad Cenedlaethol Cymru bellach yn arfer grymoedd deddfu primaidd, onid yw datblygiad awdurdodaeth ar wahân i Gymru yn anorfod?â.Enillodd Huw Pritchard, myfyriwr PhD, y brif wobr ar y cyd gyda myfyriwr o Brifysgol Caerdydd yng ngornest traethawd Cynhadledd âLegal Walesâ.
âYn dilyn refferendwm y Cynulliad ym Mawrth 2011 mae gan y Cynulliad rymoedd deddfu sylfaenol. Yn sgil hynny mae trafodaeth wedi bod ynglšn â datblygu awdurdodaeth i Gymru sydd ar wahân i awdurdodaeth unedig Cymru a Lloegr syân bodoli ar hyn o brydâ, eglura Huw, 26, wrth drafod ei ymateb personol iâr cwestiwn. âNi chafwyd unrhyw newid iâr awdurdodaeth drwy Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 na drwy statud arall. Er hynny, mae datblygiadau gweinyddol yn y llysoedd, y proffesiwn aâr farnwriaeth yn golygu bod rhai newidiadau a datblygiadau Cymreig yn yr awdurdodaeth syân cyd-fynd â datblygiadau cyfansoddiadol Cymru. Mae Llywodraeth Cymru aâr Cynulliad yn ymgynghori ar y cwestiwn yma ar y funud ac felly bydd yn drafodaeth ddiddorol dros y misoedd nesaf.â
Arweiniwyd y panel beirniaid ar gyfer y gystadleuaeth traethawd gan Syr John Thomas, Llywydd Adran Mainc y Frenhines, tra cyflwynwyd y wobr gan Farwnes Hale, Ustus y Goruchaf Lys. âRoeddwn i'n hynod o falch a diolchgar fy mod yn un o enillwyr y wobrâ, meddai Huw, syân derbyn ysgoloriaeth gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol tuag at ei astudiaethau doethurol. Cyfraith gyhoeddus Cymru yw fy maes ymchwil ac felly roedd cymryd rhan ym mlwyddyn gyntaf y gystadleuaeth hon yn brofiad gwerthfawr iawn. Rwy'n gobeithio y bydd y gystadleuaeth a'r wobr yn mynd o nerth i nerth yn ystod y blynyddoedd nesaf gan ei fod yn cyfle ardderchog i fyfyrwyr fel fi.â
Fel aelod o GrĹľp Ymchwil Cyfraith Gyhoeddus yr Ysgol, ac wrthiân cwblhau ei draethawd hir ar Ddatganoli ym Mhrydain ac Ewrop, mae gan Huw arbenigedd helaeth yn y maes hwn. Yn ystod y Gynhadledd, fe gafodd o â gydaâi gyd-ymchwilwyr a darlithwyr Ysgol y Gyfraith Dr Osian Rees a Dr Alison Mawhinney â cyfle i gyflwyno eu gwaith ymchwil diweddar. âRydym wedi bod yn edrych ar elfennau cyfreithiol ac ymarferol yr awdurdodaeth yng Ngogledd Iwerddon er mwyn gweld beth ellir ei ddysgu oâr profiad hwnnw ar gyfer Cymruâ, meddai Huw, syân dod o Fethesda. âDrwy nawdd gan Gymdeithas yr Ysgolheigion Cyfreithiol (Society of Legal Scholars) buom yn ymweld ag unigolion a sefydliadau cyfreithiol ym Mhelffast. Yn dilyn ymateb a diddordeb yn y gynhadledd byddwn yn paratoi adroddiad llawn o gasgliadau'r ymchwil dros y misoedd nesaf.â
Dyddiad cyhoeddi: 12 Tachwedd 2012