Myfyrwyr Bangor yn cystadlu yng Nghân i Gymru eto eleni
Gethin ( Chwith ) ac IfanYn dilyn llwyddiant Rhys Gwynfor ac Osian Huw Williams, myfyrwyr Prifysgol Bangor, yng nghystadleuaeth Cân i Gymru y llynedd, a llwyddiant Nia Davies Williams, myfyrwraig MA cerddoriaeth, a ddaeth yn drydydd yn 2012, mae dau o fyfyrwyr y brifysgol wedi cael eu cynnwys ar restr fer y gystadleuaeth boblogaidd. Maeâr gystadleuaeth yn cael ei ddarlledu am 7.45 efoâr canlyniadauân cael eu cyhoeddi mewn rhaglen arbennig am 9.30 nos Wener 28.2.14.
Ifan Davies o Lanegryn, Tywyn a Gethin Griffiths o Fethel ywâr awduron - cyfansoddwyr.
Esboniodd Ifan Davies, syân 19 ac yn gyn-fyfyriwr o Goleg Meirion Dwyfor, eu bod yn hoffi fformat newydd y gystadleuaeth a ddefnyddiwyd am y tro cyntaf y llynedd, a bod y caneuon a ddewiswyd iâr rownd derfynol y llynedd yn llawer mwy cyfoes nag oâr blaen. Roedd hyn wedi apelio atynt ac wedi eu hysbrydoli i fynd ati i gyd-gyfansoddi cân ar gyfer y gystadleuaeth.
Byddant yn canuâr gân âDydd yn Dodâ fel deuawd ac maent yn gobeithio cael y band Swnami i chwaraeâr gerddoriaeth iddynt - gan fod Ifan yn aelod oâr grĹľp hwnnw.
Gethin, syân 20 oed ac yn gyn-ddisgybl o Ysgol Brynrefail, yw awdur y geiriau.
Yn Ă´l Gethin: âCân am daith feddyliol rhywun sydd wedi bod yn teimloân isel ac syân sylweddoli bod amser gwell i ddod ydy âDydd yn Dodâ.â
Gethin ( Chwith ) ac IfanIfan a fuân bennaf gyfrifol am gyfansoddiâr gerddoriaeth. Maeân disgrifioâr gerddoriaeth fel âsynth-popâ, syân debyg iâr arddull syân boblogaidd ar y sin roc Gymraeg ar hyn o bryd, gan ei fod yn aelod oâr grĹľp Swnami, maeân debyg ei fod yn gwybod!
Meddai Ifan:
âMaeân gan eithaf electronig ac âupbeatâ; sydd yn addas i bawb ei mwynhau!â
Mae'r ddau yn eu hail flwyddyn yn astudio am radd anrhydedd mewn cerddoriaeth ac yn byw yn Neuadd John Morris Jones y brifysgol. Dyma'r tro cyntaf iddynt gyfansoddi gyda'i gilydd er eu bod yn perfformioân gyson mewn nosweithiau meic agored.
Er bod Gethin yn teimloân eithaf nerfus, maeân edrych ymlaen at gystadlu yn y noson fawr.
Dywedodd: âRydym yn wrth ein boddau ein bod wedi cael ein dewis i fod yn un oâr chwech ar y rhestr fer, cawn weld beth a ddaw oâr profiad.â
Ychwanegodd: âDewisais astudio ym Mhrifysgol Bangor oherwydd y cyfle i astudio cwrs o safon uchel drwy gyfrwng y Gymraeg. Y peth gorau am y brifysgol yw bod popeth ar gael drwyâr Gymraeg.
Meddai Ifan: âMae cystadlu yn brofiad cyffrous iawn, ond beth bynnag syân digwydd, mae'n debyg y bydd Gethin a minnauân jamio efoân gilydd yn y dyfodol agosâ.
Dywedodd am y brifysgol: âY peth gorau am Fangor ywâr ochr gymdeithasol wrth gwrs! Ond mae cael astudio cerddoriaeth drwy gyfrwng y Gymraeg hefyd yn bwysig i mi, ac maeâr dewis o fodiwlau yn grĂŞt! Dewisais astudio yma er mwyn cael byw bywyd addysgol a chymdeithasol drwyâr Gymraeg.â
Dyddiad cyhoeddi: 24 Chwefror 2014