Myfyrwyr yn cystadlu am Wobr Flynyddol KESS 2013
Ilze Skujina, Aberystwyth; Danny Clegg, Prifysgol De Cymru; Jennifer Marshall, Caerdydd; yr ennillydd: Eleri Price, Aberystwyth; Alexandros Koutsantonis, De Cymru; Tomas Awdry, Aberystwyth; Tracy Perkins, Bangor; Catherine Sharp, Bangor.Mae Prosiect Ysgoloriaeth Sgiliauâr Economi Wybodaeth (KESS) a ariannwyd gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF) wedi cynnal ei Noson Wobrwyo Flynyddol yn Techniquest ym Mae Caerdydd ar y 12fed o Fedi, gan wahodd myfyrwyr, academyddion a chwmnĂŻau ledled Cymru i gymryd rhan mewn her cyflwyno ymchwil.
Maeâr prosiect KESS Cymru-gyfan yn rhoi cyfle i fyfyrwyr, academyddion a chwmnĂŻau gydweithio ar brosiect ymchwil sydd wediâi deilwra ar gyfer anghenion y cwmni.
Yn ystod y digwyddiad, arddangoswyd goreuon KESS mewn her lleâr oedd gofyn i bob cyfranogwyr gyflwyno amlinelliad oâu prosiect PhD/MRes o fewn 3 munud. Brwydrodd ysgolheigion KESS o Brifysgol Aberystwyth, Prifysgol Bangor, Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol De Cymru am wobr glodfawr KESS.
Ar Ă´l proses o bleidleisio trylwyr, cyhoeddwyd mai enillydd Gwobr KESS 2013 oedd Eleri Price gyda'i chyflwyniad am 'Fridio Ĺľyn ar gyfer safon uwch'. Mae prosiect KESS Eleri yn waith ar y cyd rhwng IBERS (Prifysgol Aberystwyth) a phartner y cwmni, Innovis. Pan enillodd y wobr, dywedodd Eleri, âRoeddwn i wir yn gegrwth ac yn teimloân ofnadwy o falch. Mae'n anrhydedd derbyn y wobr hon oherwydd safon uchel y cystadleuwyr eraill."
Trafodwyd amrediad eang o bynciau gan y rhai a oedd yn rhoi cyflwyniadau ar y noson:
- Alex Koutsantonis:
- âMarcio CE - Datblygu cynnyrch lintel dur carbon iselâ, prosiect gan Brifysgol De Cymru mewn cydweithrediad â Catnic â Menter Dur Tata.
- Ilze SkujiĹa: âGeneteg poblogaeth adar ysglyfaethus prin: y Barcud Cochâ, prosiect gan Brifysgol Aberystwyth mewn cydweithrediad ag Ymddiriedolaeth Barcudiaid Cymru ac Ecology Matters.
- Tracy Perkins: âRĂ´l gwaddodion aberol fel cronfa ar gyfer micro-organeddau pathogenaiddâ, prosiect gan Brifysgol Bangor mewn cydweithrediad â DĹľr Cymru Cyf.
- Jennifer Marshall: âDatblygu adnoddau dysgu ar-lein ar gyfer dysgwyr y Gymraeg yn Nant Gwrtheyrn', prosiect gan Brifysgol Caerdydd mewn cydweithrediad â Nant Gwrtheyrn.
- Catherine Sharp:
- 'Effaith fideo a gwobrau ar y nifer o ffrwythau a llysiau y mae plant 3 i 4 oed yn eu bwyta', prosiect Prifysgol Bangor mewn cydweithrediad â Food Dudes.
- Danny Clegg: âTriniaeth nad ywân fewnwthiol a meintoliad symptomau ar gyfer Clefyd Raynaudâ, prosiect gan Brifysgol De Cymru mewn cydweithrediad â Tonus Elast.
- Tomas Awdry:
- âCymhwyso seicoleg ysgogol i dechnoleg ffitrwyddâ, prosiect gan Brifysgol Aberystwyth mewn cydweithrediad â Broadsword.
Gellir gweld yr holl ar wefan KESS.
Dywedodd Dr Penny Dowdney, Rheolwr Prosiect KESS ym Mhrifysgol Bangor, "Roedd safon y gwaith ymchwil KESS a gyflwynwyd eleni yn eithriadol, ac yn dangos yr angen am ymchwil cydweithredol syân canolbwyntio ar ddiwydiant, ar lefel gradd Meistr Ymchwil a doethuriaeth, er mwyn gyrruâr economi wybodaeth yng Nghymru yn ei blaen a'i datblygu mewn dull gwirioneddol gyfannol.â
Menter sgiliau lefel uwch Cymru-gyfan yw Ysgoloriaeth Sgiliauâr Economi Wybodaeth (KESS) a arweinir gan Brifysgol Bangor ar ran y sector Addysg Uwch (HE) yng Nghymru. Caiff ei ariannu yn rhannol gan raglen cydgyfeirio Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF) Llywodraeth Cymru ar gyfer Gorllewin Cymru aâr Cymoedd.
Am fwy o wybodaeth ac enghreifftiau o brosiectau KESS, ewch i
Dyddiad cyhoeddi: 3 Hydref 2013