Negeseuon y diwydiant alcohol am âyfed yn gyfrifolâ heb fynd at wreiddyn y mater
Nid yw ymgyrchoedd y diwydiant alcohol i hybu âyfed yn gyfrifolâ yn cael fawr ddim effaith, a gallant hyd yn oed annog mwy o yfed. Dyna un o brif gasgliadau adroddiad newydd gan Alcohol Concern a lawnsir Ddydd Mercher 12 Hydref, ac a ysgrifennwyd gan ymchwilwyr o Brifysgolion GlyndĹľr a Bangor.
Wedi ystyried tystiolaeth o lawer rhan oâr byd, mae ymchwilwyr oâr ddwy brifysgol wedi canfod fod negeseuon iechyd y diwydiant alcohol yn aml yn rhai amwys, ac yn aneglur am beth yw ymddygiad diogel o ran yfed alcohol. Mae negeseuon iechyd iâw cael yn aml yng nghyd-destun hysbysebion syân hyrwyddo diota fel dewis positif mewn bywyd.
Mae awduron yr adroddiad yn nodi bod datganiadau ac ymgyrchoedd dan nawdd y diwydiant diodydd fel arfer yn dangos alcohol fel cynnyrch niwtral nad ywân achosi problemau ond yn nwylo yfwyr anghyfrifol, ond bod y dystiolaeth yn awgrymu ei fod yn sylwedd peryglus yn y bĂ´n, a bod angen rheoli a rheoleiddioân ofalus sut y caiff alcohol ei farchnata aâi ddosbarthu.
Canfuâr tĂŽm ymchwil, a arweiniwyd gan yr Athro Rob Pool o Brifysgol GlyndĹľr aâr Dr Catherine Robinson o Brifysgol Bangor, mai gwneud alcohol yn fwy drud ac yn fwy anodd ei gael oedd y dulliau mwyaf tebygol o leihau yfed aâr niwed syân deillio o alcohol.
Dywedodd yr Athro Iechyd Meddwl o Brifysgol GlyndĹľr, Rob Poole:
âMae nifer o ganfyddiadau allweddol cyson o ymchwil ryngwladol fodern ar leihauân niwed y mae alcohol yn ei achosi. Yn benodol, codi prisiau a lleihau argaeledd ywâr dulliau mwyaf effeithiol. Mewn gwirionedd, nid oes dim tystiolaeth argyhoeddiadol bod ymgyrchoedd am yfed yn gyfrifol yn cael effaith bositif o gwbl.
âMaeâr gwrthdaro â buddiannauâr diwydiant alcohol mor nodedig nes bod nifer o gyrff iechyd annibynnol, gan gynnwys Sefydliad Iechyd y Byd, yn credu na ddylai fod gan y diwydiant ddim rĂ´l mewn llunio polisĂŻau na hybu iechyd mewn perthynas ag alcohol.â
Dywedodd Rheolwr Alcohol Concern Cymru, Andrew Misell:
âMae anghysondeb amlwg rhwng honiadauâr diwydiant diodydd eu bod yn gweithio i hybu yfed yn synhwyrol, aâr angen iddynt werthu mwy o alcohol. Yn Ă´l un amcangyfrif, petai pawb yn y Deyrnas Unedig yn yfed o fewn y canllawiau, byddai elwâr diwydiant alcohol yn lleihau 40%. Does ryfedd, felly, fod y diwydiant yn canolbwyntio ei ymgyrchoedd hybu iechyd ar y tactegau syân lleiaf tebygol o wneud i ni gyd yfed llai, aâu bod yn awyddus iawn i basioâr cyfrifoldeb am unrhyw broblemau ymlaen iâw cwsmeriaid.
âMae cwmnĂŻau diodydd yn dweud wrthym am âfwynhauâ eu cynnyrch yn âgyfrifolâ â gan ein hannog i ddal i yfed ond gyda syniad niwlog am ei wneud mewn modd âcyfrifolâ. Ar yr un pryd, mae rhannau mawr oâr diwydiant diodydd wedi gwrthwynebu codi prisiau a lleihau argaeledd, sef y ddau beth sydd fwyaf tebygol o dacloâr arfer o yfed er mwyn meddwi.â
Dywedodd y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau, Carl Sargeant:
âMaeâr adroddiad hwn yn dangos y sylfaen o dystiolaeth syân cefnogi polisĂŻau i reoli pris ac argaeledd alcohol, ac i gyfyngu ar ei hysbysebu aâi hyrwyddo er mwyn diogelu plant a phobl ifanc. Rwyân croesawuâr canfyddiadau hyn ac yn edrych ymlaen at barhau ein partneriaeth lwyddiannus gydag Alcohol Concern Cymru, gan weithio i wellau bywydau pobl yng Nghymru.â
Dyddiad cyhoeddi: 12 Hydref 2011