Oedi cyn agor theatr
Yn dilyn cyfnod dwys iawn o waith adeiladu dros y misoedd diwethaf, yn anffodus mae Prifysgol Bangor yn gorfod cyhoeddi na fydd Theatr Bryn Terfel wedi ei chwblhau mewn pryd ar gyfer cynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru, ‘°ä³ó·É²¹±ô´Ú²¹â€™ ym mis Medi.
Bydd cynhyrchiad ‘°ä³ó·É²¹±ô´Ú²¹â€™ rwan yn cael ei gynnal yn y flwyddyn newydd.
Dywedodd yr Athro Jerry Hunter, cadeirydd Bwrdd Ymgynghorol Celfyddydol Pontio Dirprwy Is-ganghellor Prifysgol Bangor:
“Rydym yn ymddiheuro yn daer i’n cynulleidfa, y gymuned leol, ein partneriaid, ac yn arbennig Theatr Genedlaethol Cymru ac rydym yn rhannu’r siom.
“Rydym wedi bod yn gweithio’n galed gyda’r contractwr dros y chwe mis diwethaf, mae’r amserlen wedi bod yn dynn, ond roeddem yn credu fod modd agor ar amser. Fodd bynnag heddiw rydym wedi penderfynu na fydd hi’n bosib i ni agor gyda ‘°ä³ó·É²¹±ô´Ú²¹â€™ fel a obeithiwyd.
Rydym ar hyn o bryd yn cynnal adolygiad manwl gyda’r contractwr, Miller, er mwyn llunio amserlen ddiwygiedig ar gyfer yr agoriad. Bydd Pontio, Canolfan Celfyddydau ac Arloesi y Brifysgol yn agor mewn rhannau gyda’r theatr yn agor gyntaf.
“Byddwn yn cyhoeddi dyddiadau newydd ar gyfer Chwalfa ar ddiwedd y mis. Bydd pawb sydd wedi prynu tocyn yn cael eu trosglwyddo i’r perfformiad cyfatebol yn y flwyddyn newydd, neu yn cael y dewis o dderbyn ad-daliad llawn. Yn ogystal, i wneud yn iawn am yr anhwylustod, bydd cwsmeriaid yn cael taleb anrheg gwerth £5 i’w ddefnyddio ar gyfer perfformiadau eraill yn y Theatr. Bydd staff swyddfa docynnau Pontio yn cysylltu â chwsmeriaid yn uniongyrchol.
“Hoffem ddiolch i Theatr Genedlaethol Cymru am eu cydweithrediad sy’n golygu y gallwn lwyfannu’r cynhyrchiad arbennig hwn yn y flwyddyn newydd.
“Bydd y trafodaethau manwl gyda’r contractwr yn cymryd peth amser. Dim ond ar ôl i’r trafodaethau hyn gael eu cwblhau y byddwn yn cadarnhau y dyddiad agor newydd.
“Bydd gwersi i’w dysgu o hyn, ond ein blaenoriaeth ar hyn o bryd yw gweithio gyda’r contractwr i gwblhau yr adeilad, a darparu rhaglen gelfyddydol agoriadol o ansawdd uchel. Cyn gynted ag y bydd gennym raglen ddiwygiedig byddwn yn gwneud cyhoeddiad pellach.â€
Dyddiad cyhoeddi: 3 Medi 2014