Partneriaeth Hyfforddi Ddoethurol Envision a gyllidir gan NERC
Mae Prifysgol Bangor yn aelod o Bartneriaeth Hyfforddi Ddoethurol Envision a gyllidir gan NERC (), ynghyd â Phrifysgolion Lancaster a Nottingham, a'r Ganolfan Ecoleg a Hydroleg, Arolwg Daearegol Prydain a Rothamsted Research.
Mae’n bleser gan Brifysgol Bangor hysbysebu wyth project PhD o dan adain Envision yn 2016. Dywedodd yr Athro John Healey, Coleg y Gwyddorau Naturiol, Prifysgol Bangor: "Roedd y gystadleuaeth ar gyfer dwy garfan gyntaf efrydiaethau Envision yn gryf, ac mae set ragorol o fyfyrwyr wedi cael eu recriwtio i'r rhaglen, sy'n datblygu grŵp rhyngddisgyblaethol cyffrous o sêr ymchwil y dyfodol. Mae partneriaid Envision yn rhagweld y bydd y projectau a hysbysebir ar gyfer 2016 hefyd yn ddeniadol iawn i ymgeiswyr o safon uchel, a fydd yn cael eu cyffroi gan y cyfle rhagorol a gynigir gan y rhaglen hon."
Ewch i wefan Ysgol Ddoethurol Prifysgol Bangor ( ) i ddarllen mwy am yr ysgoloriaethau.
Dyddiad cyhoeddi: 15 Rhagfyr 2015