Prifysgol Bangor yn arwyddo cytundeb partneriaeth 10 mlynedd gydag Oxford International
Mae Prifysgol Bangor wedi arwyddo cytundeb partneriaeth newydd gydag , darparwr addysg achrededig unigryw, sy'n flaenllaw ym maes addysg yn y Deyrnas Unedig ac yng Nghanada.
Bydd y bartneriaeth yn lansio Coleg Rhyngwladol Bangor, coleg a fydd wedi ei wreiddio ar gampws y brifysgol, ac a fydd yn addysgu camau cyntaf ystod o raddau integredig a chorfforedig, ar lefel israddedig ac ôl-raddedig, ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol yn y brifysgol.
Mae disgwyl y bydd y bartneriaeth yn dyblu maint corff myfyrwyr rhyngwladol y brifysgol dros y bedair neu'r bum mlynedd nesaf, gan gychwyn trwy dderbyn tua 50 o fyfyrwyr ym mis Medi 2016.
Dywedodd John Hughes, Is-Ganghellor Prifysgol Bangor:
"Fel Prifysgol sydd â ffocws rhyngwladol cryf, rydym yn edrych ymlaen at weithio gydag Oxford International. Bydd y bartneriaeth i greu Coleg Rhyngwladol ym Mangor yn dod a graddau rhagorol Bangor at gynulleidfa ehangach o fyfyrwyr."
"Mae'r Brifysgol yn darparu safon ragorol o ran addysgu a gofal myfyrwyr. Gan fod ymchwil yn llywio ein haddysgu a chan fod dros dri chwarter ein hymchwil yn cael ei ystyried naill ai o safon sydd "gyda'r gorau yn y byd" neu'n "rhagorol yn rhyngwladol", gall myfyrwyr fod yn sicr y bydd astudio ym Mhrifysgol Bangor trwy'r bartneriaeth hon yn rhoi mynediad iddynt at y gorau sydd gan addysg uwch yn y Deyrnas Unedig i'w gynnig."
Ychwanegodd David Brown, Prif Swyddog Gweithredol Oxford International:
"Rydym wrth ein boddau'n cael cyhoeddi'r bartneriaeth hon gyda phrifysgol sydd â chystal enw ledled y byd â Phrifysgol Bangor. Mae Prifysgol Bangor eisoes yn gallu brolio fod iddi enw da a chaiff dderbyniad cadarnhaol mewn nifer fawr o farchnadoedd rhyngwladol yn sgil ei hanes hir o ragoriaeth academaidd a'i lleoliad trawiadol yng ngogledd Cymru. Credwn yn gryf y bydd ein partneriaeth yn galluogi rhagor o fyfyrwyr disglair a brwdfrydig i ymuno â chymuned Bangor. A thrwy eu llwyddiant gallwn wella ymhellach ar enw da rhyngwladol y brifysgol."
Y bartneriaeth hon gyda Phrifysgol Bangor, er mwyn sefydlu Coleg Rhyngwladol Bangor, yw'r trydydd cytundeb cydweithredol o'r fath i Oxford International gyda Sefydliad Addysg Uwch yn y Deyrnas Unedig. Ym mis Mehefin 2013, lansiwyd Coleg Llwybr Rhyngwladol Caerlŷr mewn partneriaeth â Phrifysgol De Montford. Mae'r coleg hwnnw wedi gwneud yn well na'r targedau recriwtio yn y ddwy flynedd gyntaf ers agor, ac mae'n parhau i fynd o nerth i nerth. Lansiwyd Coleg Llwybr Rhyngwladol Prifysgol Capel Crist Caergaint yn 2015, gan roi rhwydd hynt i fyfyrwyr rhyngwladol gael astudio mewn dinas sy'n safle treftadaeth y byd, UNESCO.
Dyddiad cyhoeddi: 25 Ebrill 2016