Prifysgol Bangor yn cyfrannu i’r Cyngor Cynghori ar Wyddoniaeth Cymru
˛Ń˛ą±đ’r Yr Athro Sian Hope, Cyfarwyddwr Gweithredol Arloesi ac Athro Cyfrifiadureg ym Mhrifysgol Bangor a Cyfarwyddwr RIVIC (Sefydliad Cyfrifiadura Gweledol yng Nghymru), Prifysgol Bangor; wedi i phenodi i Gyngor Cynghori ar Wyddoniaeth Cymru gan Brif Gynghorydd Gwyddonol Cymru, John Harries.
Mae hi a’r Athro Bridget Emmett, Athro Ymchwil Anrhydeddus Prifysgol Bangor; a Phennaeth Safle, Canolfan Ecoleg a Hydroleg (NERC), Bangor, ymysg y 17 arbenigwyr amlwg sydd wedi’u penodi i’r Cyngor gyntaf. Bydd yn atebol, ac yn cynghori Prif Gynghorydd Gwyddonol Cymru ar ystod llawn o faterion ym maes gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg.
Bydd y Cyngor hefyd yn ystyried y wyddoniaeth gyffredinol sy’n cael ei defnyddio i gynorthwyo datblygiad economaidd a chymdeithasol Cymru, a bydd yn rhoi’r lefel uchaf o gyngor gwyddonol annibynnol i Lywodraeth Cynulliad Cymru.
Meddai’r Athro Sian Hope:
“Bydd y cyngor yn cynghori ar pob mater lle mae gwyddoniaeth a thechnoleg yn cael effaith ar Gymru; mae hyn yn cynnwys adfywiad economaidd ac ansawdd bywyd i bobol y genedl ac rwyf yn ei ystyried yn anrhydedd ac wrth fy modd i gael chwarae rhan yn y dasg hanfodol hyn.”
Mae Lesley Griffiths, y Dirprwy Weinidog Gwyddoniaeth, Arloesi a Sgiliau wedi croesawu’r penodiadau.
“Mae gwyddoniaeth a thechnoleg yn bynciau allweddol sydd â rhan hollbwysig i’w chwarae i ddatblygu ac adeiladu economi a ffyniant Cymru yn y dyfodol. Bydd y Cyngor Cynghori annibynnol newydd hwn yn rhoi’r arweiniad a’r cyngor arbenigol i helpu inni gyflawni ein gweledigaeth.
“Hoffwn ddiolch i’r panel o arbenigwyr amlwg a chydnabyddedig, sydd wedi cytuno i wasanaethu ar y Cyngor Cynghori ar Wyddoniaeth newydd i Gymru.”
Meddai’r Athro Harries:
"Mae hwn yn ddatblygiad cyffrous iawn i Gymru, ac i minnau. Byddaf yn cydweithio’n agos â chydweithwyr ar y Cyngor newydd i nodi gwyddoniaeth a thechnoleg o safon fyd-eang ym mhrifysgolion Cymru, diwydiant, llywodraeth a’r trydydd sector, fydd yn sylfaen ymchwil a datblygu yn y dyfodol. Bydd yn fraint i weithio â’r grŵp hwn o wyddonwyr a pheirianwyr o’r safon uchaf sy’n rhan o’r Cyngor Cynghori ar Wyddoniaeth newydd i Gymru.”
Bydd y Cyngor newydd dan gadeiryddiaeth y Prif Gynghorydd Gwyddonol, a bydd yn cynnwys cyd-gadeirydd annibynnol, sef yr Athro Chris Pollock (cyn Gyfarwyddwr Sefydliad Ymchwil Tir Glas a’r Amgylchedd, Aberystwyth). ˛Ń˛ą±đ’r Cyngor yn uniongyrchol atebol i’r Athro Harries, yn hytrach na Gweinidogion, ac mae’r penodiadau’n ddi-dâl.
Dyddiad cyhoeddi: 24 Tachwedd 2010