Staff y Brifysgol i ddringo Mynydd Kilimanjaro i godi arian ar gyfer elusen
Mae dwy aelod o staff Prifysgol Bangor yn paratoi ar gyfer taith unwaith mewn oes i gofio am fachgen lleol a laddwyd mewn damwain ffordd.
Bydd Emma Wynne-Hughes o Ysgol Busnes Bangor a Hazel Frost o’r Ysgol Seicoleg yn dringo Mynydd Kilimanjaro i godi arian ar gyfer Tŷ Gobaith a Chronfa Goffa Darren Rhys.Emma ac Hazel ar eu taith elusennol i fyny’r Wyddfa yn ddiweddar. Byddent nawr yn wynebu Kilimanjaro er cof mab Hazel
Bu farw mab Hazel, Darren Rhys, ddydd San Steffan 2009 pan gafodd ei daro gan gar wrth seiclo’r daith 10 milltir o’i waith yn yr Amwythig i gartref ei dad. Ers hynny, mae Hazel wedi cynnal nifer o weithgareddau codi arian er cof am ei mab 18 oed a oedd yn ffan mawr o sglefrfyrddio ac yn 2011 agorwyd y parc sglefrfyrddio cyntaf ym Mangor i gofio amdano.
Gyda’r her ddiweddaraf hon bydd Emma a Hazel yn mynd ar daith flinderog 5 diwrnod at gopa Kilimanjaro sy’n 5,895 metr uwch ben y môr, ac yna dod i lawr o ben y mynydd mewn dau ddiwrnod.
Ar hyn o bryd mae’r ddwy yn dilyn cynllun hyfforddi llym sy’n cynnwys cerdded gyda bagiau cefn trwm, mynd i’r gampfa a throedio mynyddoedd garw Eryri. Cyn iddynt wynebu'r mynydd uchaf yn Affrica, byddant yn cael profion i wneud yn siŵr eu bod yn gallu delio'n gorfforol gyda'r uchder.
"Mae gweld y ffordd ryfeddol y mae Hazel wedi delio gyda’r ddwy flynedd ddiwethaf wedi fy ngwneud yn benderfynol o dderbyn yr her," meddai Emma, sydd hefyd yn Uwch Warden yn neuaddau preswyl myfyrwyr Prifysgol Bangor. “Dyma her fwyaf fy mywyd ond dwi’n siŵr mai hwn fydd y profiad mwyaf gwerthfawr.â€
Bydd Emma a Hazel yn dechrau ar eu taith 28 Gorffennaf. Os hoffech gyfrannu at DÅ· Gobaith er cof am Darren, ewch i
Dyddiad cyhoeddi: 5 Mawrth 2012