TĂŽm Bangor yn gwneud adolygiad o barciau morol yn y CaribĂŽ
Mae rhaid amddiffyn y riffau cwrel er mwyn iddynt aros yn hydwythMae tĂŽm o Ysgol Gwyddorau Eigion Prifysgol Bangor wedi bod yn brysur yn Ynysoedd y Cayman ym MĂ´r y CaribĂŽ, yn ymgynghori ââr cyhoedd ynglšn ââr gwaith o warchod y mĂ´r er mwyn helpu i gynllunio parciau morol y dyfodol.
Maeâr gwaith yn rhan o un o brojectau Menter Darwin DEFRA (Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig Llywodraeth y Deyrnas Unedig), syân ariannuâr project, aâi nod yw gwella rhan oâr mĂ´r sydd eisoes dan warchodaeth. Ymunodd Dr John Turner (Arweinydd y Project), Laura Richardson (Swyddog y Project) a Croy McCoy (myfyriwr PhD) oâr Ysgol Gwyddorau Eigion, â rhai o gyfarwyddwyr Adran yr Amgylchedd mewn cyfres ddwys o 18 o gyfarfodydd cyhoeddus a digwyddiadau iâr cyfryngau ar hyd a lled yr ynysoedd. Rhoddodd y tĂŽm gyflwyniadau i weinidogion Llywodraeth Ynysoedd y Cayman, y corff hybu twristiaeth, cymdeithas syân hybu chwaraeon dĹľr, busnesau llogi llongau cydweithredol, ymddiriedolaeth genedlaethol, clybiau pysgota mĂ´r a hyd yn oed gweinidogion eglwysi. Aeth y tĂŽm hefyd â sioe deithiol o amgylch canolfannau cymunedol. Y nod oedd casglu barn trigolion yr ardal ynglšn ââr mĂ´r aâr agweddau arno roedden nhwân eu gweld fel y rhai pwysicaf. Cymerodd y tĂŽm ran hefyd mewn dwy raglen âffonio i mewnâ fywiog ar y radio, ac fe gynhyrchodd bum ffilm ddogfen fer a dau fideo iâr teledu. Cafodd y tĂŽm gryn sylw hefyd ym mhrif straeon papurau newydd yr ynysoedd!
Mae Menter Darwin yn ariannu gwaith ymchwil sydd o werth ymarferol uniongyrchol i wledydd lle mae bioamrywiaeth ar ei gorau. Ei nod yw helpuâr gwledydd i gyflawni eu rhwymedigaethau dan y prif gonfensiynau ar amrywiaeth fiolegol, rhywogaethau mudol a masnachu mewn rhywogaethau sydd mewn perygl. Mae staff Prifysgol Bangor yn gweithio gydaâu partneriaid yn Adran yr Amgylchedd Llywodraeth Ynysoedd y Cayman aâr corff gwarchod natur yno i wneud adolygiad oâr parciau morol ac o gadwraeth y mĂ´r.
Mae parciau morol presennol Ynysoedd y Cayman (un o diriogaethau tramor y Deyrnas Unedig) wedi gwasanaethuâr wlad ymaân arbennig o dda am 25 o flynyddoedd. Ond maeâr bygythiadau i amgylchedd y mĂ´r yn wahanol iawn erbyn hyn iâr rhai yn 1986, pan gafodd y parciau eu creu.
Yn Ă´l Gina E Banks Petrie, Cyfarwyddwr yr Amgylchedd ar ran Llywodraeth Ynysoedd y Cayman, âY bygythiadau newydd yw poblogaeth syân cynyddu, gorbysgota, newid yn yr hinsawdd a rhywogaeth oresgynnol o ddreigiau mĂ´r o Gefnfor yr India aâr MĂ´r Tawel.â
Grwper Esboniodd Dr John Turner o Fangor sut yr oedd Adran yr Amgylchedd yr Ynysoedd wedi bod yn ddigon craff i fynd ati gyda chefnogaeth y cyhoedd i greu system oâr radd flaenaf o barciau morol:
âPrin fod y mwyafrif oâr ardaloedd morol dan warchodaeth ar hyd a lled y byd yn fwy na âpharciau papurâ, gan fod diffyg gwaith rheoli a gorfodi. Mae parciau morol Ynysoedd y Cayman yn eithriadol gan eu bod wediâu rhannuân barthau dan wahanol lefelau o warchodaeth. Mae swyddogion cadwraeth yn gorfodiâr rheoliadau ynglšn ag angori llongau, pysgota a rhyngweithio â bywyd y mĂ´r fel y morgathod duon enwog syân croesawu twristiaid i Sting Ray City. Ond maeâr bygythiadau newydd â fel dĹľr y cefnfor yn cynhesu gan achosi clefydon a thynnuâr lliw oâr cwrelau, stormydd garwach syân digwydd yn amlach, lefel y dĹľr yn y mĂ´r yn codi a mwy o asidau yn y cefnfor â yn golygu bod angen i ni wneud adolygiad ar frys oâr ardaloedd dan warchodaeth fel eu bod yn gallu ateb gofynion y 25 mlynedd nesaf.â
Pwysleisiodd aelodauâr tĂŽm yn eu cyflwyniadau ei bod hiân hanfodol cynyddu lefel y warchodaeth er mwyn iâr riffiau cwrel allu gwrthsefyll effeithiauâr bygythiadau syân dod yn sgil newid yn yr hinsawdd. Yn eu tro, byddaiâr riffiau cadarnach ymaân amddiffyn yr arfordiroedd ac yn dod â manteision economaidd ar ffurf twristiaeth a physgota.
Mae Project Menter Darwin wedi cyrraedd hanner ffordd drwy raglen tair blynedd o hyd. Buâr tĂŽm wrthiân gwneud arolygon maes i asesu iechyd y riffiau cwrel o amgylch y tair ynys ac i ystyried pa mor helaeth oedd y poblogaethau o bysgod aâr pwysau syân dod yn sgil gweithgareddau pysgota. Arweinydd yr holl arolygon maes oedd Croy McCoy, ymgeisydd o Ynysoedd y Cayman am PhD ym Mhrifysgol Bangor sydd hefyd yn Uwch-wyddonydd Ymchwil yn Adran yr Amgylchedd Llywodraeth yr Ynysoedd. Cafodd gymorth Laura Richardson a raddiodd o Fangor ac sydd hefyd yn gweithredu fel Swyddog y Project, a thri thĂŽm o fyfyrwyr ar y cwrs MSc mewn Gwarchod yr Amgylchedd Morol, syân gwneud eu projectau ymchwil ar riffiau cwrel Ynysoedd y Cayman.
âDrwy ddod â gwyddonwyr maes iâr Ynysoedd, rydyn niân ychwanegu at y gallu i wneud yr arolygon dwys yma. Mae hynnyân helpuâr wlad i roi sylw i broblemau pwysig ym maes cadwraeth ac mae hefyd yn gyfle gwych iân myfyrwyr Ă´l-radd ni,â meddai John Turner.
Cyflwynodd Tim Austin, Cyfarwyddwr Ymchwil yn Adran yr Amgylchedd Llywodraeth Ynysoedd y Cayman, ganlyniadauâr arolygon yn ystod yr 18 o gyfarfodydd cyhoeddus yng nghwmniâr tĂŽm. Dywedodd: âMae tystiolaeth gennym erbyn hyn syân dangos sut maeâr Ynysoedd yn elwa ar yr ardaloedd morol dan warchodaeth. Yn y mannau dan warchodaeth maeâr cwrelauân gorchuddio mwy oâr riffiau, ac yno hefyd mae llai o glefydon a channu nag sydd yn y mannau sydd heb eu gwarchod. Mae mwy o bysgod yn y mannau dan warchodaeth, ac mae rhai oâr rheiniân nofio oddi yno iâr dĹľr oâu hamgylch.â
Mae'r pysgodyn llew yn rywogaeth ymledol rheibus o'r Indo-Passiffig sydd yn dinistrio cymunedau pysgod yn y CaribĂŽ Dangosodd John Turner mai dim ond 17% o sgafell gul Ynysoedd y Cayman sydd dan warchodaeth lawn, a nod y project yw gwarchod 30-50% oâu cynefinoedd fel mangrofau a morwellt, aâr cynefinoedd yn rhan gefn y riffiau ac ar eu teras. Bydd y project yn defnyddio technegau cynllunio ardaloedd dan warchodaeth syân debyg iâr rhai a ddefnyddiwyd i amddiffyn Parc Morol y Barriff Mawr yn Awstralia. Byddan nhwân ystyried ffyrdd o warchod ardaloedd newydd, a bydd y tĂŽm yn eu cyflwyno iâr cyhoedd yn ystod ail gyfres o sesiynau ymgynghori ar yr ynysoedd y flwyddyn nesaf. Y cam nesaf fydd dylunio system newydd o barciau morol.
Yn ystod y rownd bresennol o sesiynau ymgynghori ar hyd a lled Ynysoedd y Cayman, aeth y tĂŽm ati i annog cyrff aâr cyhoedd i sĂ´n am eu pryderon ac am eu gweledigaeth ar gyfer amgylchedd y mĂ´r mewn 25 o flynyddoedd. Disgrifiodd rhai o drigolion hšn yr Ynysoedd y riffiau fel yr oeddent yn ystod eu hieuenctid, gan nodi pa mor hawdd oedd pysgota yno. Roedd y mwyafrif oâr bobl yn awyddus i weld mwy o amgylchedd y mĂ´r dan warchodaeth, gan gydnabod gwerth riffiau byrlymus, llawn bywyd o safbwynt twristiaeth ac amddiffyn arfordiroedd. Ond roedden nhw hefyd yn pwysleisio bod angen addysgu pobl a gorfodiâr rheoliadauân fwy trylwyr. Soniodd rhai oâr pysgotwyr am eu pryderon, wrth gwrs, ond roedden nhwân dod i sylweddoliân raddol hefyd y byddai gwellaâr parciau morol yn sicrhau adnoddau ar gyfer cenedlaethauâr dyfodol.
Dyddiad cyhoeddi: 28 Medi 2011