Wythnos Hinsawdd: Cynllun teithio am ddim ar fysiau
Unwaith eto mae Bysiau Arriva Cymru wedi ymuno â Phrifysgol Bangor i gynnig teithio AM DDIM i fyfyrwyr a staff sy'n teithio yn ôl ac ymlaen i'r brifysgol yn ystod Wythnos Hinsawdd.
Rhwng 2 a 6 Mawrth 2015, bydd Bysiau Arriva Cymru yn cynnig teithio am ddim i’r holl staff a myfyrwyr sy’n teithio yn ôl ac ymlaen i gampysau Prifysgol Bangor. Y cyfan fydd rhaid i gefnogwyr Wythnos Hinsawdd Prifysgol Bangor ei wneud bydd camu ar y bws, dangos cerdyn staff/myfyriwr Prifysgol Bangor dilys (gyda chod bar) i'r gyrrwr a theimlo'n fodlon eu bod yn gwneud rhywbeth bach i helpu'r amgylchedd.
Mae’r Brifysgol yn annog staff a myfyrwyr i adael y car gartref am ychydig ddyddiau a manteisio ar y cynnig hwn. Bydd defnyddio cludiant cyhoeddus nid yn unig yn lleihau carbon, ond gall hefyd gael gwared â’r straen o eistedd mewn traffig neu chwilio am le i barcio.
Meddai Ricky Carter, Rheolwr Amgylcheddol y brifysgol: "Ym Mangor, rydym wrthi'n cymryd camau breision tuag at fod yn brifysgol fwy cynaliadwy. Rydym yn gofyn i ni ein hunain pa effaith ydym yn ei gael ar yr amgylchedd a beth allwn ei wneud i wella pethau.
“Mae'r cynnig hael hwn gan Arriva yn annog ein staff a myfyrwyr i ystyried ffordd fwy amgylcheddol o ddod i'r brifysgol na dod yn y car ac mae hefyd yn codi ymwybyddiaeth o fanteision iechyd a lles defnyddio cludiant cyhoeddus i deithio yn ôl ac ymlaen i'r brifysgol. Heb gymorth Arriva, ni fyddai hyn wedi bod yn bosib."
Wythnos Hinsawdd yw ymgyrch newid hinsawdd fwyaf Prydain a'i nod yw ysbrydoli pobl i gymryd camau newydd i greu dyfodol cynaliadwy. Os ydych yn ceisio meddwl am ffordd i wneud gwahaniaeth yn ystod Wythnos Hinsawdd, ewch i ddefnyddio i weld faint o arian y gallech ei arbed trwy ddefnyddio cludiant cyhoeddus yn hytrach na gyrru pob dydd.
Mae amserlenni bysus Arriva i’w gweld .
Mae Arolwg Teithio Prifysgol Bangor yn cael ei gynnal bob yn ail flwyddyn, ac mae’n hanfodol er mwyn ein helpu’r Brifysgol i ddeall patrymau teithio staff a myfyrwyr yn ôl ac ymlaen i’r gweithle. Mae’r wybodaeth a’r adborth sy’n cael ei ddarparu yn amhrisiadwy o ran pwyso a mesur a ydy’r Brifysgol yn cyrraedd ei nod o annog dulliau mwy cynaliadwy o deithio; mae hefyd yn gyfle i staff a myfyrwyr nodi pa welliannau i deithio yr hoffai nhw eu gweld.
Mae’r arolwg ar gael .
Bydd pob ymateb yn cael ei drin yn gyfrinachol a 31 Mawrth 2015 yw’r dyddiad cau ar gyfer llenwi’r holiadur.
Dyddiad cyhoeddi: 25 Chwefror 2015