Y Brifysgol yn cofioâr Cymru a ddyfeisiodd yr anadlennydd
Prif Wenidog Carwyn Jones yn traddodi'r ddarlith.Bu Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, ar ymweliad â Phrifysgol Bangor yn ddiweddar, i ddathlu bywyd a gwaith Dr Tom Parry Jones OBE, sef un o wyddonwyr ac entrepreneuriaid Cymru sydd wedi cael cydnabyddiaeth ar raddfa ryngwladol.
Roedd Carwyn Jones yn traddodi âA Breathtaking Legacy of an Inventor, Entrepreneur & Philanthropistâ , sef âDarlith Goffa Dr Tom Parry Jonesâ a oedd yn anrhydedduâr dyn o FĂ´n a ddyfeisiodd yr anadlennydd electronig, ac achub bywydau dirifedi yn sgil hynny.
Bu farw Tom Parry Jones yn 78 fis Ionawr 2013. Ar Ă´l cael ei fagu ar fferm ym MĂ´n, graddio mewn Cemeg o Fangor, a dod yn academaidd a gĹľr busnes o fri. Tua diwedd y 1960s, ac yntau ar y pryd yn Ddarlithydd yn Sefydliad Gwyddoniaeth a Thechnoleg Prifysgol Cymru (UWIST), datblygodd yr âAlcolyserâ ac, ymhen ychydig flynyddoedd, yr âAlcolmeterâ a ddelid â llaw, ac a gynhyrchwyd gan y cwmni a sefydlwyd ganddo yng Nghaerdydd, sef Lion Laboratories Ltd. Gwerthodd yr anadlennydd electronig ar raddfa eang iawn ar draws y byd, gan ennill cyfres o wobrau. Gweddnewidiodd y modd yr oedd heddluoedd yn gallu gweithredu deddfwriaeth gysylltiedig ag yfed a gyrru.
Athro John G Hughes, Is- Ganghellor y Brifysgol, Prif Weinidog Carwyn Jones a gweddw'r diweddar Dr Tom Parry Jones OBE, Mrs Raj Parry Jones.
Meddaiâr Prif Weinidog, âRwyân falch iawn o gymryd rhan yn Narlith Goffa gyntaf Tom Parry Jones ac, wrth wneud hynny, o hyrwyddo model rĂ´l mor neilltuol ar gyfer ymchwilwyr, entrepreneuriaid a dyngarwyr dros Gymru gyfan aâr tu hwnt.â
Meddai Dr David Roberts, Cofrestrydd y Brifysgol, âCafodd Dr Tom Parry Jones lawer o lwyddiannau mawr yn ystod ei yrfa, gan ennill nifer o wobrau am ei waith. Fodd bynnag, un oâi brif amcanion oedd ysbrydoli a chefnogi pobl ifanc â cenedlaethau newydd o fyfyrwyr â i gyfranogi mewn gwyddoniaeth ac entrepreneuriaeth, a bu mor hael a sefydlu Cronfa Waddol Tom Parry Jones ym Mhrifysgol Bangor at y diben hen nifer o flynyddoedd yn Ă´l. Rhoddodd hyn sylfaen cadarn i Ĺ´yl Gwyddoniaeth Bangor. Rydym yn werthfawrogol iawn oâr cyfle hwn i fynegi ein diolch ac i dalu teyrnged i gof Tom.
Dyddiad cyhoeddi: 18 Mawrth 2014