Yn 2023 gafodd Gronfa Gymunedol Prifysgol Bangor ei sefydlu fel rhan oâr Strategaeth Cenhadaeth Ddinesig a gefnogir gan MEDR drwy Gronfa Ymchwil ac Arloesi Cymru. NĂŽd y gronfa yw ysgogi gweithgareddau ymgysylltu dinesig rhwng staff y Brifysgol a phartneriaid allanol.
Gall pob aelod o staff wneud cais am grantiau hyd at ÂŁ750 i wneud gweithgareddau ymgysylltu dinesig a fydd yn sbarduno cydweithrediadau newydd neuân adeiladu ar gysylltiadau sydd eisoes yn bodoli gyda phartneriaid allanol. Rydym yn annog ceisiadau o bob rhan o'r Brifysgol gan gynnwys Colegau, Ysgolion a Gwasanaethau Proffesiynol.
Dylai prosiectau gyd-fynd Ăą'r Strategaeth Cenhadaeth Ddinesig a rhaid i'r ymgeisydd allu dangos sut maeâr cais yn mynd i'r afael ag un neu fwy o'r tair prif thema.
- Gweithio gyda rhanddeiliaid i nodi a mynd iâr afael Ăą âheriau mawrâ - Iechyd, Hinsawdd, y Gymraeg, Tai, Tlodi, Poblogaeth sy'n Heneiddio;
- Gweithio gyda rhanddeiliaid i alluogi arloesi a chyfleoedd economaidd;
- Gwella ansawdd bywyd a rhannu gwybodaeth trwy ymgysylltu cymdeithasol a chyhoeddus.
Ariannwyd cyfanswm o 11 o brojectau yn y flwyddyn gyntaf! Darllenwch fwy amdanynt isod
Prosiectau
Hanes a Diwylliant
Yr Athro Nathan Abrams Dathlu Hanes Iddewig Gogledd Cymru a Theulu Pollecoff
Mewn partneriaeth Ăą Varcity (datblygwyr TĆ· Pollecoff), Menter Fachwen aâr Project Darganfod, cynhaliwyd dadansoddiad manwl oâr teulu Pollecoff er mwyn codi ymwybyddiaeth o hanes Iddewig yng Nghymru ac i hybu a phwysleisio cyfraniad Iddewon i hanes y gymuned ehangach. Cafwyd arddangosfa yn Niwrnod Cymunedol y Brifysgol ym mis Hydref.
âRydym wedi dechrau codi ymwybyddiaeth o effaith y teulu Pollecoff ar Fangor a thu hwnt gan arwain at lawer o adborth cadarnhaolâ (Yr Athro Nathan Abrams, Athro mewn Ffilm).
Yr Athro Zoe Skoulding Dosbarthiadau Meistr Creadigol i Blant Ysgolion Lleol
Cefnogodd y Gronfa Gymunedol bedwar digwyddiad ar wahĂąn i gyflwyno sut y gall ysgrifennu creadigol gefnogi lles personol ac amgylcheddol. Bu arbenigwyr ym maes ecoleg, argyfwng hinsawdd, sĆ”oleg a llenyddiaeth Gymraeg yn hwyluso cyfres o ddosbarthiadau meistr a helpodd i ennyn diddordeb cynulleidfaoedd newydd, gan gynnwys plant ysgolion lleol drwyâr celfyddydau aâr gwyddorau.
âRoedd yn hyfryd cael y cyfle i ymateb i frwdfrydedd myfyrwyr lleol a chreu digwyddiad pwrpasol yn arbennig ar eu cyfer a oedd yn canolbwyntio ar y berthynas rhwng barddoniaeth a gwleidyddiaeth gyfoes mewn digwyddiad gydaâr nos yn Pontioâ.
(Yr Athro Zoe Skoulding)
Hinsawdd
Dr Marcel Ferrand Project GwaithGwyrdd Myfyrwyr Rhyngwladol
Trefnwyd y project gan y Swyddfa Cefnogi Myfyrwyr Rhyngwladol a daeth Ăą thros 50 o fyfyrwyr, aelodau oâr gymuned leol ac Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru ynghyd trwy weithgareddau amgylcheddol yn cynnwys Glanhau Traeth ym Mhen LlĆ·n a Diwrnod Bywyd Gwyllt Morol ar Ynys MĂŽn.
âRoedd yn gyfle gwych i fyfyrwyr newid eu hamserlen ddyddiol a chychwyn ar anturiaethau cyffrous ym myd natur. Roedd yr un mor gyffrous i staff ac i wirfoddolwyr yr Ymddiriedolaeth, a dreuliodd y diwrnod gyda phobl o bob rhan oâr byd yn dysgu am eu diwylliannau, eu ffyrdd o fyw mewn modd cynaliadwy ac yn adeiladu pontydd cymunedol i ofaluân am ein planedâ (Dr Marcel Clusa Ferrand, Rheolwr Cefnogi Myfyrwyr).
Natalie Chivers Ymarferydd Garddwriaethol Therapiwtig
Galluogodd y Gronfa Gymunedol staff i gomisiynu Ymarferydd Garddwriaethol Therapiwtig a oedd, mewn partneriaeth Ăą Chyfeillion Gardd Fotaneg Treborth, yn gallu cefnogiâr grĆ”p cymunedol rheolaidd a chroesawu gwirfoddolwyr newydd o gefndiroedd amrywiol. Mae'r cyllid wedi cynyddu capasiti yn aruthrol ac wedi galluogi staff i ymgysylltu Ăą mwy o aelodau o'r gymuned.
âTrwyâr project hwn rydym hefyd wedi gallu croesawu rhai gwirfoddolwyr yn ĂŽl a gafodd drafferthion trwyâr pandemig gyda heriau personol amrywiol. Yn ogystal, maeâr cyllid hwn wedi ein galluogi i ddefnyddioâr project i wneud cais am gefnogaeth bellach, a dyfarnwyd ÂŁ2200 i ni gan HEFCW i barhau Ăąân sesiynau dydd Gwener hyd y gellir rhagweldâ (Natalie Chivers, Curadur Gardd Fotaneg Treborth).
Yr Athro John Parkinson Uwchgynhadledd Cynaliadwyedd ar Yr Wyddfa
Cefnogwyd uwchgynhadledd gyntaf COPA1 Eryri ar Yr Wyddfa gan y Gronfa Gymunedol, a daeth timau o blant o ysgolion uwchradd lleol i ddatblygu projectau i fynd iâr afael Ăą phlastigau a gwastraff plastig. Cafodd y digwyddiad gefnogaeth gan randdeiliaid o broffil uchel a ffigurau cymunedol, gan gynnwys y gantores a bardd y plant, Casi Wyn, Owen Derbyshire, sef Pennaeth Cadw Cymruân Daclus, Liz Saville Roberts, sef AS Plaid Cymru dros Ddwyfor Meirionnydd, a Pryderi Ap Rhisiart o M-SParc.
âRydym yn gweld momentwm gwirioneddol yn ymdrechion y gymuned i leihau gwastraff plastig, ond dim ond megis dechrau y mae. Trwy addysg, ymchwil a chydweithio, rydym yn gosod llwyfan i newid parhaol."
(Alec Young, Swyddog Yr Wyddfa)
Iechyd
Dr Louise Prendergast Cynhadledd Gofal Lliniarol a Diwedd Oes
Mewn cydweithrediad Ăą Compassionate Cymru Garedig, Mantell Gwynedd aâr Ysgol Gwyddorau Meddygol ac Iechyd, cynhaliwyd cynhadledd yn Neuadd Reichel i archwilio syniadau a safbwyntiau unigolion sydd Ăą diddordeb mewn materion gofal lliniarol a diwedd oes, ac y mae hynnyân effeithio arnynt.
âMae marwolaeth a marw yn rhan o fywyd. Fodd bynnag, nid yw'r rhan fwyaf o bobl yn cynllunio ar gyfer y posibilrwydd yma, nac yn gwybod sut i lywio systemau iechyd a gofal cymdeithasol ar ddiwedd oes iddyn nhw eu hunain neu eraill. Amlygodd y digwyddiad yma syniadau am y dulliau gorau o ofal lliniarol a gofal diwedd oes, yn ogystal Ăą heriau allweddol. Cefnogodd y cyfranogwyr yr angen am well 'llythrennedd marwolaeth', sef y wybodaeth a'r sgiliau sydd gan bobl am farwolaeth, marw a phrofedigaeth.â (Dr Louise Prendergast, Swyddog Ymchwil).
Wendy Roberts Podlediad Gofal Cymdeithasol a Lles
Dan arweiniad Darlithydd mewn Gwaith Cymdeithasol, ariannodd y Gronfa Gymunedol y gwaith o gynhyrchu pedwar podlediad Cymraeg yn rhoi sylw i ofal cymdeithasol a lles yng Nghymru, pwysigrwydd gofal dwyieithog, a sut mae cwrs MA Gwaith Cymdeithasol y Brifysgol o fudd ac yn cefnogi elusennau lleol, cynghorau ac asiantaethau trydydd sector.
âMaeâr podlediad wedi cynnig cyfle i ni greu a chryfhau cysylltiadau gydag asiantaethau partner, ac mae wedi cynnig cyfle nid yn unig i ni godi proffil y gwahanol asiantaethau, ond hefyd amlygu a thrafod rhai oâr heriau cymdeithasol yr ydym yn eu hwynebu mewn cymdeithas heddiwâ (Wendy Roberts, Darlithydd mewn Gwaith Cymdeithasol)
Morwenna Spear Cyfleoedd ar Fwrdd Cwch Hwylio Menai One Design
Mewn cydweithrediad Ăą sefydliad Hwylio Treftadaeth y Fenai, a thrwy ddatblygu fideo hyrwyddo byr, bu tĂźm oâr Ganolfan Biogyfansoddion yn helpu i godi ymwybyddiaeth oâr cyfleoedd hwylio sydd ar gael i bobl ifanc o gefndiroedd amrywiol a difreintiedig ar draws gogledd Cymru, yn ogystal Ăą chynnig cyfleoedd i grwydro'r Fenai ar eu fflyd o gychod arbenigol.
âMaeâr project wedi helpu i wella ansawdd bywyd rhai oâr grwpiau mwyaf ymylol ar draws gogledd Cymru, yn ogystal Ăą chodi ymwybyddiaeth o hwylio aâr dreftadaeth leol syân gysylltiedig ag efâ.
(Morewenna Spear)
Yr Athro Raluca Radulescu Perthyn: Cymru, Cartref Y Chwedlau
Trwy bartneriaeth waith gyda Gwynedd Greadigol, storĂŻwr lleol ac artist cain, trefnodd cydweithwyr oâr Ysgol Iaith, Diwylliant aâr Celfyddydau weithdy ar y cyd Ăą grĆ”p Dementia lleol, Dementia Actif, a oedd yn canolbwyntio ar chwedl dwy ddraig yn Ninas Emrys. Defnyddiwyd delweddau a llyfrau prin o Gasgliad Arthuraidd y Brifysgol i ddangos sut mae chwedlauân teithio, a sut mae llyfrauân cael eu cadw aâu rhoi iâw defnyddio yn yr ardal leol.
âCawsom adborth llafar hynod gadarnhaol gan y cyfranogwyr, a gafodd fwynhau awr a hanner yn llawn rhyfeddod wrth ymgysylltu Ăąâr straeon a oedd yn gwneud iddynt deimloân fwy cartrefol. Dywedodd llawer y byddent wrth eu bodd pe byddent yn ymweld Ăą chartrefi ymddeol lleol oherwydd eu bod yn cael trafferth cymryd rhan mewn digwyddiadauâ.
(Yr Athro Raluca Radulescu)
Yr Athro Stephen Doughty Cyfres o Ddigwyddiadau Rhanddeiliaid Cymunedol i Gwmpasu Darpariaeth Fferylliaeth Newydd Ym Mhrifysgol Bangor
Defnyddiodd cydweithwyr o Ysgol Feddygol Gogledd Cymru y Gronfa Gymunedol i gynnal cyfres o ddigwyddiadau i randdeiliaid ar draws Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i gael mewnwelediad gan gleifion, cymunedau, fferyllwyr a darparwyr gofal iechyd eraill ar ofynion ac anghenion gradd Fferylliaeth newydd yn y Brifysgol. Ymgysylltodd y project Ăą nifer o randdeiliaid, gan gynnwys Llais, sef grĆ”p syân eirioli dros lais cleifion, er mwyn ceisio barn cleifion.
âAr y cyfan, roedd y digwyddiadauân hynod lwyddiannus. Cawsom gyfoeth o safbwyntiau sydd wedi helpu i lunio strwythur a chynnwys ein rhaglen MPharm newydd i ddiwallu anghenion gweithluâr dyfodol syân benodol i gyd-destun gofal fferylliaeth gogledd Cymru. Byddwn yn parhau i ddatblygu ein hymgysylltiad Ăą chleifion a grwpiau cymunedol, ac yn parhau i weithio gyda Llais er mwyn datblygu grĆ”p cleifion arbenigol y gallwn alw arno i gymryd rhan mewn gweithgareddau addysgu, asesiadau a sesiynau Addysg Ryngbroffesiynol, yn ogystal Ăą mewnbwn parhaus gan randdeiliaid wrth i ni ddatblygu'r rhaglenâ.
(Yr Athro Stephen Doughty)
Dr Emily Holmes Cynhadledd un dydd i dynnu sylw at y rhwystrau i deithio lleol ac i fynd i'r afael aâr rhwystrau hynny
Cynhaliwyd digwyddiad un dydd i randdeiliaid yn y Brifysgol er mwyn nodiâr heriau o ran gwiredduâr manteision iechyd syân gysylltiedig Ăą chynyddu Teithio Llesol yng Nghymru, ac i fynd iâr afael Ăąâr heriau hynny. Gwahoddwyd partneriaid a chynrychiolwyr o Cycling UK, Living Streets, Sustrans ac eraill i gymryd rhan yn nigwyddiadau'r a thrafodaethauâr diwrnod a oedd yn canolbwyntio ar ddull gweithredu Cymru gyfan gyda ffocws ar yr ardal leol.
âRoedd y gweithdy teithio llesol yn gyfle gwych i glywed gan sefydliadau syân hyrwyddo gweithgarwch corfforol yn yr ardal hon. Mae mewnwelediadau oâr fath yn sicrhau bod ein hymchwil yn berthnasol i ogledd Cymru ac yn ein helpu i ddylunio ymchwil mwy arloesol. Diolch i bawb a fynychodd ac a rannodd eu profiadauâ.
(Dr Emily Holmes)
Sgiliau
Ben Roberts Gweithdy adeiladu cyfrifiadur
Trefnodd a chynhaliodd tĂźm M-SParc #ArYLon Pwllheli weithdy diwrnod llawn ar gyfer 10 o fyfyrwyr TGAU lleol mewn cydweithrediad Ăą North Wales Recycle I.T. ym mis Medi. Rhoddwyd cyfle i'r myfyrwyr ddatgymalu ac ailadeiladu cyfrifiadur personol a'u gwobrwyo drwy adael iddynt fynd Ăą'r cyfrifiadur adref ar ddiwedd y dydd.
âDoes gen i ddim cyfrifiadur gartref, mae hyn wir yn mynd i fy helpu gyda fy ngwaith ysgolâ (myfyriwr lleol)
âYr hyn aâm trawodd fwyaf oedd pa mor ddiwyd yr oedd y bobl ifanc yn gweithio drwyâr dydd, yn gwrando ac yn dysgu, ac yn cymryd y cyfle o ddifrifâ (Ben Roberts, Swyddog Project Digidol a Rheolwr Ar y LĂŽn)
Chwaraeon
Dr Julian Owen Risg Anafiadau mewn Rygbi Merched Ieuenctid ar Lawr Gwlad
Fel rhan oâr project ymchwil a ariannwyd gan Rygbiâr Byd i archwilio risg anafiadau, ymgysylltodd staff yr Ysgol Seicoleg a Gwyddor Chwaraeon Ăą thua 300 o chwaraewyr rygbi benywaidd ar draws naw canolfan merched Undeb Rygbi Cymru yng ngogledd Cymru a chomisiynu ffilm ddwyieithog i ddal ysbryd rygbi ieuenctid merched yn y rhanbarth. Y project dilynol syân deillio oâr cydweithio hwn fydd project Monitro Anafiadau mewn Rygbi Ieuenctid Merched Cymru (WISGYR) a ariennir gan Rygbiâr Byd. =
âMaeâr mewnwelediadau a gafwyd oâr ymgysylltu hwn yn cynnwys pwysigrwydd dulliau unigol o ddatblygu cysylltiadau Ăą chanolfannau a phwysigrwydd ymgysylltu parhaus trwy ein project ymchwilâ (Dr Julian Owen, Darlithydd mewn Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer).
Chris Roberts Project Rhyddid PĂȘl-droed 2023
Gan adeiladu ar y bartneriaeth rhwng Prifysgol Bangor a Dreigiau gogledd Cymru, ac fel rhan o Wythnos Ffoaduriaid 2023, croesawodd y tĂźm 35 o ddinasyddion wediâu dadleoli o ardal Manceinion ym mis Mehefin, a hwyluso diwrnod o bĂȘl-droed ar Faes PĂȘl-droed 4G y Brifysgol. Cyfle i rannu profiadau diwylliannol, hyfrydwch Gogledd Cymru i gyd trwy gyfrwng y pĂȘl-droed; cafodd pawb ddiwrnod gwych!
âRoedd y natur yn anhygoel, mĂŽr un ochr, caeau gwyrdd yr ochr arall gyda defaid a gwartheg. Roedd y brifysgol, y lletygarwch aâr meysydd pĂȘl-droed yn gofiadwy a dysgais lawer am Brifysgol Bangor, ei diwylliant, ei hiaith aâi hanes. Mi wnes i ei fwynhau, a newidiodd fy hwyliau. Roeddwn i angen mynd ar daith ferâ (Mahin - ymwelydd)
âRoedd digwyddiad dydd Gwener yn gyfle gwych i rannu addysg ac ymwybyddiaeth ddiwylliannol a chreu gofod ar gyfer trafod cyfleoedd addysgiadol a chyflogaeth. Roedd yn brofiad iachusol i lawer a ddaeth o hyd i gyfeillgarwch a phartneriaethau newyddâ (Chris Roberts, Peiriannydd, Gwasanaethau Campws)
Sar Furlong & Cerys Gadd Gemau'r Ynysoedd 2023
Cefnogodd y Gronfa Gymunedol ddau aelod o staff y Gwasanaethau Proffesiynol pan aethant i Guernsey ym mis Gorffennaf a chynrychioli Ynys MĂŽn yng Ngemau Rhyngwladol PĂȘl-droed Merched 2023 NatWest. Rhoddodd Cymdeithas BĂȘl-droed Cymru glod iâr tĂźm am chwarae yng nghit swyddogol Cymru a denodd y digwyddiad lawer o sylw ar y cyfryngau cymdeithasol.
âDiolch am helpu i wneud hyn yn bosiblâ (Cerys Gadd, Gweinyddu Myfyrwyr).
Plant a Phobl Ifanc
Carol Jones Prosiect Ffilm Ieuenctid yn dod Ăą chreadigrwydd yn fyw yng Nghaernarfon
Cymerodd grƔp o bobl ifanc o Glwb Ieuenctid Porthi Dre yng Nghaernarfon ran mewn prosiect ffilmio cyffrous a dros ddwy sesiwn, dysgon nhw sgiliau ffilmio a golygu gyda chefnogaeth gan Gweledigaeth Cyf.
Nod y prosiect oedd grymusoâr criw ifanc i greu eu ffilmiau eu hunain ac, drwy hynny, tynnu eu sylw at y diwydiant teledu lleol aâr amrywiaeth o gyfleoedd gyrfa sydd ar gael ynddo.
Daeth y prosiect i ben gyda digwyddiad sgrinio arbennig yn Stiwdio Ffilm Aria yn Llangefni, lle dangoswyd y ffilm derfynol. Ymhlith y gwesteion roedd aelodau o gast y gyfres deledu boblogaidd âRwond a Rowndâ, gan wneud y digwyddiad yn ddathliad cofiadwy o dalent a chreadigrwydd lleol.
âRoedd y broses yn ddiffwdan aâr gefnogaeth yna drwyâr gweithgaredd.â
Carol Jones
Dr Lucy Bryning a Dr Kat Ford Uwchgynhadledd Iechyd Cyhoeddus Ieuenctid yn Ysbrydoli Dysgwyr Lleol
Daeth tĂźm staff trawsadrannol at ei gilydd ar 11 Mawrth i gynnal y Uwchgynhadledd Ieuenctid gyntaf ar Iechyd Cyhoeddus, gan groesawu dysgwyr o dair ysgol gynradd yng Ngogledd Cymru i gymryd rhan. Roedd y digwyddiad yn cynnwys amrywiaeth o weithgareddau rhyngweithiol, gan roi cyfle i bobl ifanc rannu eu barn a chyfrannu syniadau ar sut i fynd iâr afael Ăą heriau iechyd cyhoeddus yng Nghymru.
Roedd yr uwchgynhadledd yn cynnwys sesiynau ymgysylltu dan arweiniad arbenigwyr o Brifysgol Bangor, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Iechyd Cyhoeddus Cymru, gan gwmpasu prif faterion iechyd cyhoeddus:
Prif ffocws y digwyddiad oedd rhoi llwyfan i blant rannu eu barn ar flaenoriaethau iechyd cyhoeddus i Gymru a lle mae angen buddsoddi. Ar y diwrnod, dysgodd y plant am gwmpas eang iechyd cyhoeddus a nodi eu prif bryderon, gan gynnwys pwysigrwydd treulio amser yn yr awyr agored, mynd iâr afael Ăą newid hinsawdd i ddiogelu cenedlaethauâr dyfodol, hyrwyddo gweithgarwch corfforol a deietau iach, a diogelu rhag pandemigau yn y dyfodol.
âFel rhywun syân dysgu oedolion fel arfer, roedd yn wych cael y cyfle i ymgysylltu Ăą phlant ysgol lleol a chynnwys grĆ”p oedran iau mewn trafodaethau am iechyd cyhoeddus.â
Dr Lucy Bryning
Nia Young & Dr Beth Edwards Presenoldeb ar y Stryd Fawr i Blant a Phobl Ifanc yng Nghanol Dinas Bangor
Nod ymarfer cwmpasu a oedd yn cynnwys ymgynghoriadau cymunedol, holiaduron ac Uwchgynhadledd Ieuenctid ar Iechyd Meddwl a Lles a gynhaliwyd yn y Brifysgol ym mis Tachwedd, oedd archwilio anghenion Plant a Phobl Ifanc yn yr ardal leol. Arweiniwyd y project gan gydweithwyr yn yr Ysgol Addysg aâr Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd a chyfrannodd dros 100 o bobl ifanc at wahanol ddigwyddiadau ymgysylltu yn ystod y project.
âMaeâr gwaith o gysylltu Ăą Phrifysgol y Plant eisoes ar y gweill a gobeithiwn barhau Ăąâr gweithgareddau hyn er mwyn cael tystiolaeth bellach i gefnogi cyllid ychwanegol iâr project." (Dr Beth Edwards, Cydlynydd Datblygu Addysg Fenter)
Dr Ruth Elliott Adeiladu ar y cydweithio gyda Llenyddiaeth Cymru a Llais Dyslecsia
Dan arweiniad yr Ysgol Gwyddorau Dynol ac Ymddygiadol, helpodd y Gronfa Gymunedol i ariannu project a oedd yn adeiladu ar y cydweithio presennol gyda Llenyddiaeth Cymru a Llais Dyslecsia, a chasglu profiadau plant ac oedolion syân byw gyda dyslecsia yn y gymuned ehangach, yn enwedig yn y Gymraeg.
âRydym yn aros am gadarnhad o gyllid pellach a fydd yn ein galluogi i weithio gyda disgyblion ysgol ag anawsterau niwroamrywiol a llythrennedd trwy gyfrwng y celfyddydau (Dr Ruth Elliott, Tiwtor Sgiliau Astudio Arbenigol)â.
Donna DixonâŻâŻ Uwchgynhadledd Ieuenctid i drafod Effaith Technoleg
Trefnodd aelodau staff oâr Ysgol Addysg uwchgynhadledd ieuenctid yn cynnwys disgyblion o ysgolion uwchradd lleol gydaâr nod o ysbrydoli pobl ifanc i feddwl yn feirniadol am y defnydd o dechnoleg aâi heffaith ar iechyd meddwl, llythrennedd digidol ac arloesi cynaliadwy. Tynnodd yr uwchgynhadledd sylw at bwysigrwydd safbwyntiau pobl ifanc tra'n deall bod rhaid gwneud y pynciau hyn yn hygyrch i gynulleidfaoedd amrywiol mewn digwyddiadau yn y dyfodol.
âNododd athrawon fod y digwyddiad yn cyd-fynd Ăą nodau dosbarth ac yn annog meddwl beirniadol ymhlith y disgyblion, maeâr ymwneud cadarnhaol yn dangos llwyddiant y digwyddiad o ran ysbrydoli pobl ifanc a hyrwyddo cydweithredu cymunedolâ.
Donna Dixon
Economi Wledig
Dr Eifiona Thomas Lane Gweithdy Arloesi a Chefnogi Partneriaethau Cynaliadwy
Fel rhan o Gynhadledd Academaidd Entrepreneuriaeth Wledig 2025, buâr Gronfa Gymunedol yn gallu cefnogi a hyrwyddo cydweithredu ystyrlon rhwng rhanddeiliaid cymunedol, mentrau cymdeithasol, sefydliadauâr sector gwirfoddol, busnesau a swyddogion awdurdodau lleol syân arwain datblygiad partneriaethau arloesol cynaliadwy yn ardal Prifysgol Bangor. Darparodd y digwyddiad lwyfan gwerthfawr i ymgysylltu ag arbenigwyr blaenllaw ac arloeswyr ym maes Datblygu Gwledig, ynghyd Ăą staff academaidd ac ymchwilwyr oâr Ysgol Gwyddorau Amgylcheddol a Naturiol, gan feithrin cyfnewid gwybodaeth a datblygu capasiti.
Mae cynnig pellach i gyflwyno Gweithdy ac Ffair Arloesi i bobl ifanc 15â16 oed (gan gynnwys ysgolion, grwpiau cymunedol a gwasanaethau gyrfaoedd), mewn cydweithrediad Ăą GrĆ”p Llandrillo Menai, wediâi drefnu ar gyfer Gwanwyn 2026 gyda chyllid eisoes wediâi sicrhau gan Goleg Cymraeg Cenedlaethol, gan ein galluogi i ddechrauâr cynllunio.
âCredaf fod y gronfa yn gweithioân dda ac yn hygyrch i ymgeisio amdani. Mae swyddogion yn gefnogol i weithgareddau amrywiol ac yn gymorth wrth drefnuâr digwyddiadau.â
Dr Eifiona Thomas Lane